Gran Canaria

Lleolir yr ynys Gran Canaria yng nghanol yr Ynysoedd Dedwydd rhwng Tenerife a Fuerteventura. Trwy gydol y flwyddyn, mae'r tywydd yn gynnes gyda'r tymheredd cyfartalog yn amrywio o 18 °C ym mis Ionawr i 25 °C ym mis Awst. O ganlyniad, mae'r ynys yn hynod boblogaidd fel cyrchfan wyliau Haf a Gaeaf.

Gran Canaria
Gran Canaria wildfire (48590670831).jpg
Mathynys, cyrchfan i dwristiaid Edit this on Wikidata
Poblogaeth851,231 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYr Ynysoedd Dedwydd Edit this on Wikidata
LleoliadCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
GwladSbaen Edit this on Wikidata
Arwynebedd1,560 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,956 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau27.9586°N 15.5925°W Edit this on Wikidata
Map
Baner Gran Canaria
Lleoliad Gran Canaria

Gran Canaria yw'r drydedd ynys fwyaf o'r Ynysoedd Dedwydd (ar ôl Tenerife a Fuerteventura) ond er waethaf ei maint bychan, yn aml disgrifir yr ynys fel fersiwn fechan o gyfandir cyfan. Cyferbynna'r De Sych gyda fforestydd pinwydd y mynyddoedd mewndirol ac nid yw'n anghyffredin i weld eira ar gopaon y mynyddoedd tra bod twristiaid yn torheulo ar y traethau isod.

Ystyrir traethau Maspalomas ymysg rhai o draethau gorau'r ynys ac mae canolfan Playa del Ingles (traeth y Saeson) yn cynnig bywyd nos bywiog iawn. Mae gan Gran Canaria gyfleusterau golff gwych ac mae gan yr ynys draddodiad hir o chwaraeon.

Dyddia prif ddinas yr ynys, Las Palmas yn ôl i'r 15g. Mae ganddi boblogaeth o bron 400,000 sy'n golygu mai dyma'r ddinas fwyaf yn yr Ynysoedd Dedwydd. Mae gan y ddinas bensaernïaeth trefedigaethol, siopau a bariau cosmopolitaidd.