Gray's Inn
Mae Anrhydeddus Gymdeithas Gray's Inn yn un o bedwar Ysbyty'r Frawdlys yn Llundain. Er mwyn gweithio fel bargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr mae'n ofynnol cael Galwad i'r Bar mewn un ohonynt. Mae Gray's Inn wedi ei leoli yn Holborn, ym Mwrdeistref Camden, Llundain, yn union ar y ffin rhwng Dinas Llundain a Dinas Sansteffan. Yr Ysbytai eraill yw'r Deml Ganol, y Deml Fewnol a Lincoln's Inn.
Math | Ysbytai'r Frawdlys |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Camden |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Holborn |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 4.57 ha |
Cyfesurynnau | 51.5194°N 0.1122°W |
Cod OS | TQ3096781825 |
Statws treftadaeth | parc rhestredig neu ardd restredig Gradd II* |
Manylion | |