Grease (sioe gerdd)

Sioe gerdd 1972 a ysgrifennwyd gan Jim Jacobs a Warren Casey ydy Grease.

Grease
Recordiad o'r cast Broadway gwreiddiol
200
Poster y sioe wreiddiol
Cerddoriaeth Jim Jacobs
Warren Casey
Geiriau Jim Jacobs
Warren Casey
Llyfr Jim Jacobs
Warren Casey
Cynhyrchiad 1972 Broadway
1973 West End
1978 Film
1979 Adfywiad West End
1993 West End adfywiad
1994 Broadway adfywiad
1994 Taith genedlaethol yr Unol Daleithiau
2001 West End adfywiad
2002 Gwlad Pwyl, Warsaw
2001 West End adfywiad
2007 West End adfywiad
2007 CBA Puerto Rico adfywiad
2007 Broadway adfywiad
2008 Taith genedlaethol yr Unol Daleithiau

Daw enw'r sioe o is-ddiwylliant pobl ifainc dosbarth gweithiol yr Unol Daleithiau yn ystod y 1950au a adwaenid fel y "greasers". Adrodda'r sioe gerdd, sydd wedi ei lleoli yn yr ysgol ffuglennol Rydell High ym 1959, hynt a helynt deg person ifanc dosbarth gweithiol wrth iddynt geisio delio gyda'u bywydau o gariad, ceir a sinemau gyrru a pharcio. Ceisia sgôr y sioe ail-greu sain cynnar roc a rôl. Yng nghynhyrchiad gwreiddiol Broadway, roedd Grease yn sioe gignoeth, beiddgar, rhywiol a chwrs ond mae'r cynyrchiadau a ddilynodd wedi cael eu saniteiddio.