Agor y brif ddewislen

Warsaw neu Warszawa (Pwyleg: Warszawa) yw prifddinas Gwlad Pwyl. Saif ar lan ddwyreiniol Afon Vistula, tua 370 km o arfordir y Môr Baltig a mynyddoedd y Carpatiau fel ei gilydd. Amcangyfrifir bod ganddi boblogaeth o tua 1,726,581 (2014).

Warsaw
Warsaw 07-13 img14 View from StAnne Church tower.jpg
POL Warszawa COA.svg
Math Prifddinas, city with powiat rights, Dinas, seat of government Edit this on Wikidata
Warszawa pl.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth 1,764,615 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13G Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Rafał Trzaskowski Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Sir Masovian Voivodeship Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl
Arwynebedd 517.24 ±0.001 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 103 ±1 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Afon Vistula Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Sir Warsaw West, Sir Pruszków, Sir Piaseczno, Sir Otwock, Sir Mińsk, Sir Wołomin, Sir Legionowo Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.22°N 21.03°E Edit this on Wikidata
Cod post 00-000 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Warsaw Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Rafał Trzaskowski Edit this on Wikidata

HanesGolygu

Erbyn dechrau'r Oesoedd Canol roedd casgliad o drigfeydd ar lan Afon Vistula wedi tyfu'n dref ac yna'n ddinas erbyn y 15g. Cyhoeddwyd Warsaw yn brifddinas y wlad yn 1611. Dioddefodd gyfnod dilewyrch ar ôl hynny ond erbyn y 18g roedd yn ddinas lewyrchus eto.

Cafodd ei meddiannu gan Rwsia yn 1794 ac yn ddiweddarach gan Ffrainc dan Napoleon, a Prwsia yn ogystal. Chwareodd ran bwysig yn yr ymgyrch dros annibyniaeth i Wlad Pwyl yn y 19g. Ar ôl cael ei meddiannu gan yr Almaenwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf daeth yn brifddinas y wlad unwaith yn rhagor yn 1918 pan enillodd y wlad ei hannibyniaeth.

Dioddefodd y ddinas yn enbyd yn yr Ail Ryfel Byd pan y meddianwyd gan y Natsïaid. Un o agweddau gwaethaf y rhyfel yn Warsaw oedd creu'r ghetto i'r Iddewon gan y Natsïaid (1940). Gorfodwyd 400,000 o Iddewon i fynd i fyw yn Ghetto Warsaw. Dim ond tua 100,000 oedd wedi goroesi erbyn Chwefror 1943. Bu gwrthryfel ganddynt ar y strydoedd ond fe'u gorchfygwyd gan y Natsïaid a chafodd y goroeswyr i gyd eu rhoi i farwolaeth.

Ar ddiwedd y rhyfel roedd y ddinas wedi'i dinistiro'n llwyr bron. Aethpwyd ati yn y 1950au i atgyfodi'r hen ddinas ac ailgreu rhai o'r adeiladau hanesyddol a gollwyd. Mae'r ddinas wedi tyfu'n sylweddol ers hynny ac erbyn heddiw mae Warsaw yn ddinas fywiog ac yn ganolfan ddiwylliannol, masnachol a chyfathrebol y wlad.

Adeiladau a chofadeiladauGolygu

  • Colofn Zygmunt
  • Eglwys gadeiriol Sant Ioan
  • Królikarnia
  • Palas Czapski
  • Palas Diwylliant
  • Palas Krasiński
  • Palas Wilanów
  • Theatr Mawr

EnwogionGolygu

Dolenni allanolGolygu