Ardal faestrefol Bracknell yn Berkshire, De-ddwyrain Lloegr, ydy Great Hollands.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Bracknell yn awdurdod unedol Bwrdeistref Bracknell Forest. Gorwedd yr ardal oddeutu 1.5 milltir (2.4 km) i'r de-orllewin o ganol y dref

Great Hollands
Mathmaestref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBracknell
Daearyddiaeth
SirBerkshire
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.3992°N 0.7706°W Edit this on Wikidata
Cod OSSU854669 Edit this on Wikidata
Map

Dechreuwyd adeiladu'r stad dai ym 1967 yn y cyfnod pan oedd Bracknell yn cael ei datblygu fel tref newydd. Roedd cysylltiad agos rhwng datblygiad y faestref a thwf Sperry, gwneuthurwr geirosgopau a oedd ar y pryd yn gyflogwr mwyaf Bracknell. Ymhlith y cyfleusterau mae canolfan siopa, canolfan gymunedol, llyfrgell ac ysgol gynradd, yn ogystal â nifer o unedau diwydiannol ysgafn.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 25 Ebrill 2020
  Eginyn erthygl sydd uchod am Berkshire. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato