Maestref
Ardal breswyl yw maestref fel rheol, ond cânt eu diffinio yn wahanol ar draws y byd. Gall fod yn ardal breswyl mewn dinas fawr, neu'n gymuned breswyl o fewn pellter cymudo i ddinas. Mae gan rai maestrefi rywfaint o ymreolaeth lywodraethol, ac mae gan y rhanfwyaf ddwysedd is o boblogaeth o'i gymharu ag ardaloedd dinas fewnol. Datblygodd maestrefi cyfoes yn ystod yr 20g o ganlyniad i welliannau ym maes trafnidiaeth rheilffordd a ffordd a chynydd mewn cymudo. Mae maestrefi yn tueddu i amlhau o gwmpas dinasoedd sydd wedi eu amglchynnu â thir gwastad.[1] Cyfeirir at unrhyw ardal faestrefol fel maestref, a chyfeirir atynt gyda'i gilydd fel y maestrefi.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/37/Suburbia_by_David_Shankbone.jpg/180px-Suburbia_by_David_Shankbone.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/fe/South_San_Jose_%28crop%29.jpg/180px-South_San_Jose_%28crop%29.jpg)
Gwrthbwynt i faestrefi
golyguFel gwrthbwynt i ymestyn allan i adeiladu tai, datblygwyd meddylfryd newydd mewn datblygu trefol sef tuag at dwyseddu trefol.