Greatest Hits Radio South Wales

Gorsaf radio ar gyfer Abertawe a de-orllewin Cymru yw Greatest Hits Radio South Wales (gynt Swansea Sound neu Sain Abertawe).

Greatest Hits Radio South Wales
Ardal Ddarlledu De-orllewin Cymru
Dyddiad Cychwyn 30 Medi 1974
Arwyddair Calon De-orllewin Cymru
Amledd 1170MW
DAB
Pencadlys Tre-gwŷr
Perchennog Bauer Media
Gwefan planetradio.co.uk
Hen Logo: 1995-2007?
Hen Logo: 1974-1995?

Gorsaf radio masnachol hynaf Cymru ydyw a dechreuodd ddarlledu ar 95.1 FM ac ar 257 metr ym 1974 o'i stiwdio yn nhref Tre-gŵyr, Abertawe.

Bellach y mae'n bosib ei chlywed ar 1170 y donfedd ganol (257 metr gynt), ar radio digidol DAB Abertawe ac arlein. Peidiodd a ddarlledu ar FM ym 1995 wrth i'r orsaf ddilyn tuedd y cyfnod i rannu'r donfedd ganol ac FM yn ddwy orsaf, a sefydlu 96.4FM The Wave o ganlyniad sy'n darlledu o'r un adeilad yn Nhre-gŵyr.

Pwyslais yr orsaf yw ei bod yn 'Galon De-orllewin Cymru', statws a fagwyd yn ystod ei chyfnod hir o wasanaethu'r ardal, sy'n cynnwys de Sir Gaerfyrddin, Dinas a Sir Abertawe, Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a rhannau o Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont Ar Ogwr.

Mae'r cwmni bellach yn rhan o gwmni Bauer. Newidiodd ei enw ym mis Medi 2020 i ddod yn rhan o rwydwaith "Greatest Hits Radio".[1]

Mae ganddi amryw o raglenni Cymraeg rhwng 10 a hanner nos yn ystod yr wythnos sy'n cynnwys newyddion, cerddoriaeth a sgwrs i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn y Saesneg.

Cyflwynwyr golygu

  • Kevin Johns
  • Leighton Jones
  • Steve Dewitt
  • Steve Shaw
  • JJ
  • Lloyd Coles
  • Alun Jones
  • Gareth Wyn Jones
  • Tom Cadwalladr
  • Wyn Evans
  • Chris 'Smithy' Smith
  • Wyn Evans
  • Phil Hoyles
  • Plastic Sam
  • Marc Tierney
  • Phillip Stephens
  • Alun Rhyddid

Staff Newyddion golygu

  • Caroline Allen
  • Lexy Blackwell
  • Emma Thomas (Golygydd)

Cyfeiriadau golygu

  1. ‘Gorsaf radio annibynnol hynaf Cymru’, Sain Abertawe, yn newid ei henw. , Golwg360, 3 Medi 2020. Cyrchwyd ar 4 Medi 2020.

Dolenni allanol golygu