Gren
Cartwnydd oedd Grenfell "Gren" Jones (13 Mehefin 1934 - 4 Ionawr 2007). Yn fab i lôwr, fe'i ganwyd yn yr Hengoed, Cwm Rhymni.
Gren | |
---|---|
Ganwyd | 13 Mehefin 1934 |
Bu farw | 4 Ionawr 2007 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cartwnydd, newyddiadurwr |
Gwobr/au | MBE |
Rhwng 1958 a 1963 fe'i cyflogwyd fel dylunydd peirianneg. Ar ôl gweithio fel cartwnydd ar ei liwt ei hun, ym 1968 cafodd swydd sefydledig gyda'r Western Mail, y byddai'n tynnu cartŵn amserol ar ei gyfer bob dydd. Roedd yn fwyaf adnabyddus am greu'r stribed wythnosol "Ponty and Pop" yn y Football Echo, rhifyn chwaraeon dydd Sadwrn y South Wales Echo. Prif themâu ei gartwnau oedd bywyd y Cymoedd a rygbi.
Cyhoeddodd dros 24 o lyfrau a chynhyrchodd galendr rygbi blynyddol ar gyfer elusen. Fe'i pleidleisiwyd yn gartwnydd taleithiol gorau ym Mhrydain (sef y gorau y tu allan i Lundain) gan y Cartoonists' Club of Great Britain bedair gwaith: 1983, 1985, 1986, a 1987. Cafodd ei anrhydeddu gan y Variety Club am ei waith elusennol; fe'i gwnaed yn MBE am ei wasanaeth i bapurau newydd ym 1989; a rhoddwyd gradd anrhydeddus iddo gan Brifysgol Morgannwg yn 2004.