Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig

Mae "CBE", "DBE", "MBE" ac "OBE" i gyd yn ail-gyfeirio yma.

Seren Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig

Urdd marchogion Brydeinig ydy Urdd Dra Ardderchog yr Ymerodraeth Brydeinig (Saesneg: The Most Excellent Order of the British Empire) a sefydlwyd ar 4 Mehefin 1917 gan Siôr V, brenin y Deyrnas Unedig. Mae'r urdd yn cynnwys pum dosbarth o raniadau dinesig a milwrol; yn nhrefn y pwysicaf gyntaf:

  • Marchog (neu Fonesig) y Groes Fawr (Saesneg: Knight (or Dame) of the Grand Cross (GBE)
  • Marchog (neu Fonesig) Cadlywydd (Saesneg: Knight (or Dame) Commander (KBE neu DBE)
  • Cadlywydd (Saesneg: Commander) (CBE)
  • Swyddog (Saesneg: Officer) (OBE)
  • Aelod (Saesneg: Member) (MBE).

Dim ond y ddau ddosbarth uchaf sy'n galluogi i'r derbynnydd ddod yn aelod o'r urdd marchogion, gan roi'r hawl iddynt ddefnyddio'r teitl 'Syr' (gŵr) neu 'Bonesig' (benyw) o flaen eu henwau, cyn belled â'u bod yn enedigol o wlad y mae Siarl III, brenin y Deyrnas Unedig yn bennaeth y wladwriaeth arni. Os nad ydynt, gallent ddefnyddio enw'r urdd yn eu henwau ond nid y teitlau.

Mae hyn yn berthnasol hefyd i Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig, nid yw derbynwyr o'r fedal honno yn aelodau o'r urdd, ond mae perthynas gyda'r urdd. Ni wobrwyir y fedal hon bellach yn y Deyrnas Unedig na'i gwledydd dibynadwy, ond mae'r Ynysoedd Cook a rhai Gwledydd y Gymanwlad yn dal i'w gwobrwyo.

Arwyddair yr urdd yw I Dduw a'r Ymerodraeth. Hon yw'r urdd leiaf pwysig Brydeinig, ac mae ganddi fwy o aelodau nac unrhyw urdd arall.

Sefydlodd Siôr V, brenin y Deyrnas Unedig yr urdd i lenwi gwagle yng gyfundrefn anrhydeddau'r Deyrnas Unedig: The Most Honourable Order of the Bath a wobrwywyd i swyddogion uwch filwrol yn unig a gweinyddion dinasol; The Most Distinguished Order of St Michael and St George a anrhydeddodd llysgenaid; a Threfn Frenhinol Fictoraidd a anrhydeddodd pobl a oedd wedi gweinyddu'r Teulu Brenhinol yn bersonol. Bwriad pennaf y brenin oedd anrhydeddu'r miloedd o bobl a weinyddodd o fewn sawl ffurf answyddogol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dim ond un dosbarth oedd gan yr urdd yn wreiddiol, ond yn 1918, yn fuan wedi ei sefydliad, rhannwyd hi'n swyddogol i raniadau Milwrol a Dinesig.

Mae trefn y Marchogion yn fwy gweriniaethol na threfnau anghynhwysol Bath neu San Michael a San Siôr, ac yn ei dyddiau cynnar, ni ddaliwyd hi mewn cyfrifiaeth uchel. Newidiodd hyn dros y blynyddoedd.

Cyfansoddiad

golygu

Pen-arglwydd yr urdd yw brenin (neu frenhines) y Deyrnas Unedig, sy'n rheoli pob aelod arall yr urdd (yn arferol, ar gyngor y llywodraeth).

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gwisgoedd ac offer

golygu
 
Bathodyn Aelodau Trefn yr Ymerodraeth Brydeinig, blaen a chefn
 
Rhuban Dosbarth Dinesig yr urdd
 
Rhuban Dosbarth Milwrol yr urdd
 
Gwisgai swyddogion benywaidd yr urdd eu symbolau ar fwa, fel dengys yn y llun hwn

Mae aelodau'r urdd yn gwisgo gwisgoedd llafurfawr ar ddigwyddiadau arbennig (megis gwasanaethau quadrennial a choroni), sy'n newid o ran dosbarth (gwnaethpwyd newidiadau mawr i ddyluniad y gwisgoedd yn 1937)     Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Capel yr urdd yw crypt dwyreiniol Prifeglwys San Paul, ond deilir y gwasanaethau mawr ym mhrif gorff y brifeglwys. (Mae'r brifeglwys hefyd yn gartref i gapel Trefn San Michael a St Siôr.) Deilir gwasanaethau crefyddol yr urdd pob pedair blynedd, yn y gwasanaethau hyn gweinyddir Marchogion a Boneddigesau newydd, neilltuwyd y capel yn 1960.

Blaenoriaeth a Breintiau

golygu
 
Gall Marchog neu Fonesig ddangos cylch yr urdd ar eu arfbais.

Gwobrwyir aelodau'r urdd safle yn y drefn blaenoriaeth. Mae gwragedd dynion yr urdd hefyd yn ymddangos yn y flaenoriaeth, yn ogystal â meibion, merched a merched-yng-nghyfraith Marchog y Groes Fawr a Marchog Cadlywydd; ni ddengys perthnasau merched yr urdd unrhyw flaenoriaeth arbennig. Gall perthnasau ennill blaenoriaeth, fel rheol gyffredin, gan eu tadau a'u gwyr, ond nid gan eu mamau a'u gwragedd.

Diddymiadau

golygu

Beirniadaeth

golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Beirniadodd John Lennon naws milwrol yr urdd yn hallt gan ddweud:

Saesneg: "Lots of people who complained about us receiving the MBE received theirs for heroism in the war - for killing people. We received ours for entertaining other people. I'd say we deserve ours more."

Mae nifer o bobl wedi cael cynnig ond wedi gwrthod anrhydeddau'r Frenhines dros y blynyddoedd. Mae'n wybyddus fod rhai Cymry wedi gwrthod, yn cynnwys Carwyn James, Hywel Gwynfryn, Beti George[9], Grace Williams, T. E. Lawrence, Augustus John, E. Tegla Davies, James Griffiths a Roald Dahl.[10]

Derbyniodd yr actor Michael Sheen OBE yn 2009 ond fe'i ddychwelodd yn 2017.[11]

Nodiadau

golygu
  1. , 24 Mehefin 1921.
  2. The London Gazette, 20 Rhagfyr 1949.
  3. The London Gazette Archifwyd 2007-09-29 yn y Peiriant Wayback, 10 Awst 1965. Retrieved 28 Chwefror 2007.
  4. The London Gazette Archifwyd 2007-09-29 yn y Peiriant Wayback, 18 Gorffennaf 1975. Retrieved 28 Chwefror 2007.
  5. The London Gazette Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback, 11 Ebrill 1980. Retrieved 28 Chwefror 2007.
  6. The London Gazette Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback, 6 Mehefin 1981.
  7. "MBE conman is stripped of honour", BBC News
  8. "'Prince' Naseem stripped of MBE after time in jail for car crash", The Guardian
  9. Beti George: 'Dyw byw eich hun yn ystod pandemig ddim yn sbort' , BBC Cymru Fyw, 21 Ionawr 2021.
  10. Anrhydeddau'r Frenhines: Diolch, ond dim diolch , BBC Cymru Fyw, 30 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd ar 31 Rhagfyr 2020.
  11. Michael Sheen reveals he gave back OBE as he didn't want to be branded a 'hypocrite' , WalesOnline, 29 Rhagfyr 2020.

Ffynonellau

golygu