Gruffudd Leiaf
bardd
Mab i Gruffudd Fychan ap Gruffudd ap Dafydd Goch oedd Gruffudd Leiaf. Enwyd Gruffudd Leiaf a'i dad, ynghyd â'i frodyr Hywel Coetmor, Rhys Gethin a Robert ap Gruffudd Fychan mewn deiseb i'r brenin ym 1390 gan William Broun, person di-Gymraeg Llanrwst.[1] Ym mis Mawrth 1397, bu Gruffudd Leiaf, Hywel Coetmor, Robert ap Gruffudd Fychan a Rhys Gethin yn ysgutorion ewyllys eu tad.[2]
Gruffudd Leiaf | |
---|---|
Ganwyd | 14 g |
Galwedigaeth | bardd |
Plant | Ieuan ap Gruffudd Leiaf |
Mae rhai copïwyr yn priodoli cywydd dychan i'r dylluan iddo, ond nid yw'r priodoliad yn ddiogel o bell ffordd.