Rhys Gethin
Uchelwr o Nant Conwy a chwareodd ran flaenllaw yng ngwrthryfel Owain Glyn Dŵr oedd Rhys Gethin (fl. diwedd y 14g a dechrau'r 15fed). Roedd yn byw yn 'Hafod Rhys Gethin', Betws Wyrion Iddon, (Betws-y-Coed heddiw)[1] ym mhlwyf Betws-y-Coed, yn ôl Syr John Wynn o Wydir yn ei History of the Gwydir Family.[2]
Rhys Gethin | |
---|---|
Ganwyd | 14 g Nant Conwy |
Bu farw | 1405 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | person bonheddig |
Bywgraffiad
golyguRoedd yn ddisgynnydd i Lywelyn Fawr ac felly'n perthyn i linach brenhinol teyrnas Gwynedd. Ei dad oedd Gruffudd Fychan ap Gruffudd ap Dafydd Goch ap Dafydd ap Gruffudd ap Llywelyn Fawr. Ei frawd oedd Hywel Coetmor. Priododd Rhys â merch Hywel ap Meirig Llwyd o blas Nannau, Meirionnydd. Priodwyd ei ferch Margred â Siancyn ap Dafydd ab Y Crach ap Madog ap Goronwy ap Cynwrig, a'u mab nhw oedd yr herwr enwog Dafydd ap Siencyn.[3]
Yn 1390 apwyntiwyd clerigwr o Sais i ofalaeth plwyf Llanrwst gan Archesgob Caergaint. Ymateb yr uchelwyr lleol oedd gorfodi'r Sais uniaith i ymadael ar frys a dwyn ei eiddo. Dau o arweinwyr yr ymosodiad gwrthryfelgar oedd Rhys Gethin a'i frawd Hywel Coetmor.[3]
Pan dorrodd gwrthryfel Glyn Dŵr allan yn 1400 ymunodd Rhys a Hywel yn yr achos. Roeddynt yn arweinwyr naturiol y gymdeithas leol ac yn rhyfelwyr cadarn. Cafodd Rhys yrfa lewyrchus gyda'r tywysog. Ef mae'n debygol a arweiniodd byddin Glyn Dŵr o 3,000 o ryfelwyr ym Mrwydr Bryn Glas (22 Mehefin, 1402). Yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn mae'n troi i fyny yn gapten ar fyddin y tywysog yn ne Cymru yn erbyn llu Harri IV o Loegr. Yn 1403 roedd gyda Owain yn ymosod ar gastell Caerfyrddin. Ym mis Mawrth 1405 roedd yn y De eto, y tro yma'n ymosod yn aflwyddiannus ar dref Grosmont a'i chastell; curwyd ei fyddin o tua 8,000 o wŷr Gwent a Morgannwg gan fyddin gref a anfonwyd o Henffordd i godi'r gwarchae.[3]
Cywydd moliant
golyguCedwir cywydd moliant i Rys Gethin, a briodolir weithiau i Iolo Goch ond mae'r awduraeth yn ansicr. Mae'r llinellau agoriadol yn crynhoi teimlad nifer o'r Cymry am sefyllfa eu gwlad dan y Saeson:
- Byd caeth ar waedoliaeth da
- A droes, aml oedd drais yma;
- Lle bu'r Brython Saeson sydd,
- A'r boen ar Gymry beunydd.[4]
Â'r cywydd ymlaen i ganmol Rhys am ei haelioni - 'Ymron gallt mae i rannu gwin' - a'i ddewrder. Ef yw ceidwad Nant Conwy hardd yn erbyn gormes yr estronwyr:
- A chadw yn brif warcheidwad
- Nanconwy, mygr ofwy mad.
- Milwr yw â gwayw melyn
- Megis Owain glain y Glyn.[4]
Cof
golyguYn ystod yr ymgyrch llosgi tai haf yn y 1980au roedd "Rhys Gethin" yn cyhoeddi gweithrediadau Meibion Glyn Dŵr.
Llyfryddiaeth
golygu- R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyn Dŵr (Rhydychen, 1995)
- J. Gwynfor Jones (gol.), The History of the Gwydir Family and Memoirs (The Welsh Classics, 1990)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Family Search; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 3 Hydref 2013. Mae'r wefan yn cyfeirio at ffynhonnell arall: Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, tud. 264
- ↑ J. Gwynfor Jones (gol.), The History of the Gwydir Family and Memoirs (The Welsh Classics, 1990).
- ↑ 3.0 3.1 3.2 R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyn Dŵr (Rhydychen, 1995).
- ↑ 4.0 4.1 Henry Lewis et al. (gol.), Cywyddau Iolo Goch ac eraill (Caerdydd, 1937).