Gruffydd Aled Williams
Mae Gruffydd Aled Williams, BA, PhD, FLSW (ganed 1943) yn ysgolhaig Cymraeg sy’n arbenigo ar farddoniaeth yr oesoedd canol a llenyddiaeth y Dadeni. Fe’i magwyd yn Ninmael, Sir Ddinbych, ac yng Nglyndyfrdwy yn yr hen Sir Feirionnydd. Fe’i addysgwyd yn Ysgol Gynradd Glyndyfrdwy, Ysgol Ramadeg Llangollen (wedyn Ysgol Dinas Brân) a Choleg y Brifysgol, Bangor lle graddiodd yn y Gymraeg.
Gruffydd Aled Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1943 Dinmael |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | hanesydd llenyddiaeth |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
O 1965 hyd 1970 bu’n Ddarlithydd Cynorthwyol yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Dulyn, ac o 1970 hyd 1995 bu’n Ddarlithydd, Darlithydd Hŷn (1984) a Darllenydd (1991) yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Yn 1995 fe’i penodwyd yn Athro’r Gymraeg a Phennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, swydd a ddaliodd hyd ei ymddeoliad yn 2008.
Cyhoeddodd Williams yn helaeth yn ei briod feysydd. Mae’n awdur dros 50 o erthyglau mewn cylchgronau a chyfrolau academaidd ar farddoniaeth yr oesoedd canol a llenyddiaeth y Dadeni. Enillodd ei gyfrol Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (1986) Wobr Syr Ellis Griffith Prifysgol Cymru. Yn 1994 cyhoeddodd olygiad o’r farddoniaeth a dadogir ar Owain Cyfeiliog (m. 1170). Canolbwyntiodd ei ymchwil ar ôl ymddeol ar hanes Owain Glyn Dŵr a’r llenyddiaeth sy’n gysylltiedig ag ef. Traddododd Ddarlith Goffa Syr John Rhŷs yr Academi Brydeinig yn 2010 ar ‘More than “skimble-skamble stuff”: the medieval poetry associated with Owain Glyn Dŵr’ (cyhoeddwyd yn 2012), a chyfrannodd ddwy erthygl i’r gyfrol Owain Glyndŵr: a Casebook, gol. J. K. Bollard a Michael Livingston (2013). Yn 2016 enillodd ei gyfrol Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr (2015) wobr y categori Ffeithiol Greadigol yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru.
O 1997 hyd 2012 bu Williams yn olygydd Llên Cymru, y prif gylchgrawn academaidd ym maes hanes llenyddiaeth Gymraeg. Ef yw Llywydd Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd, ac mae’n aelod o Gyngor Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Dyfarnwyd y Wisg Wen iddo gan Orsedd y Beirdd yn 2002, ac etholwyd ef yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2014.
Mae Williams yn briod ag Éimear (née Ní Fhloinn) ac mae ganddynt dri o blant, dau fab ac un ferch.