Dinmael

bro, hen arglwyddiaeth a chwmwd

Pentref, bro, hen arglwyddiaeth a chwmwd yng nghalon Gogledd Cymru yw Dinmael. Mae ei hanes cynnar yn dywyll ac ychydig iawn o gyfeiriadau sydd 'na iddi yn y cofnodion. Mae elfen gyntaf yr enw, 'din(as)', yn golygu 'caer, amddiffynfa', tra bod 'mael' yn golygu naill ai 'uchel' neu 'tywysog, brenin': "Y Gaer Uchel" yw'r ystyr yn ôl pob tebyg felly.

Dinmael
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaEdeirnion, Penllyn, Rhos, Dyffryn Clwyd (cantref) Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.99°N 3.483611°W Edit this on Wikidata
Cod postLL Edit this on Wikidata
Map
 
Gwartheg ar fferm yn Ninmael.
 
Capel Dinmael.

Mae Dinmael yn ardal yn y canol rhwng teyrnas Gwynedd a'r Berfeddwlad i'r gogledd a Phowys yn y de. Tir mynyddig uchel a rennir gan gymoedd agored ydyw. Yn y de a'r de-ddwyrain mae'n ffinio ag Edeirnion a Phenllyn, dau gantref strategol y newidiai eu meddiant rhwng Gwynedd a Phowys. Yn y gogledd ffiniai â chantrefi Rhos a Dyffryn Clwyd. Ni fu erioed yn ardal boblog ond roedd rheolaeth arni yn bwysig yn ddiweddarach yn Oes y Tywysogion oherwydd fod llwybr yn arwain i fyny o Lyndyfrdwy trwy Gerrigydrudion i gyfeiriad Nant Conwy a chalon Gwynedd.

Ar ganol y 12g Einion ab Ednyfed, brawd Gwenllïan gwraig Rhirid Flaidd, oedd arglwydd Dinmael (neu'n dal tir sylweddol yno). Owain Brogyntyn oedd arglwydd Dinmael yn 1180.

Y fro heddiw

golygu

Mae'r rhan fwyaf o diriogaeth Bro Dinmael yn gorwedd yn sir Conwy heddiw ac mae'n sylweddol lai na'r hen gwmwd. Mae'n fro wledig, amaethyddol, heb lawer o dai. Yr unig ganolfan o unrhyw faint yw pentref bychan Y Maerdy. Ceir Ysgol Dinmael yn Ninmael sy'n cynnig addysg gynradd i blant y fro. Mae rhieni'r plant yn cael y dewis o'i hanfon i Ysgol y Berwyn, Y Bala (Gwynedd) neu Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun (Sir Ddinbych).[1]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Ysgol Dinmael Archifwyd 2008-08-27 yn y Peiriant Wayback ar wefan Bro Dinmael.

Dolen allanol

golygu