Grundarfjarðarbær
Mae Grundarfjörður sillefir hefyd yn Grundarfjarðarbær yn dref fechan yng ngogledd penrhyn Snæfellsnes yng ngorllewin Gwlad yr Iâ yn Rhanbarth Vesturland. Fe'i lleolir rhwng crib o fynyddoedd a'r môr. Mae'r mynydd ger llaw, Kirkjufell yn ffurfio penrhyn bychan. Poblogaeth y dref ar 1 Ionawr 2017 oedd 869 a'i faint yw 148 km².
Math | Cymunedau Gwlad yr Iâ |
---|---|
Poblogaeth | 861 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Björg Ágústsdóttir |
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Gefeilldref/i | Pempoull |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhanbarth y Gorllewin |
Gwlad | Gwlad yr Iâ |
Arwynebedd | 149 km² |
Yn ffinio gyda | Snæfellsbær, Helgafellssveit |
Cyfesurynnau | 64.9244°N 23.1901°W, 64.92164°N 23.19501°W |
Cod post | 350 |
IS-GRU | |
Pennaeth y Llywodraeth | Björg Ágústsdóttir |
Gorolwg
golyguYn ôl y Landnámabók, sy'n adrodd hanes gwladychu Gwlad yr Iâ yn y 9g a'r 10g, adorddir mai Herjólfur Sigurðsson a fabwysiadodd y tir rhwng Penrhyn Búlandshöfði a Fjord Kirkjufjörður. Ni wyddys yn union lle'r oedd y ffjord Kirkjufjörður, ond credir mai dyma oedd y ffin bresennol Grundarfjörður.
Derbyniodd y dref ei hawl i fasnachu yn 1786. Oddeutu 1800, daeth masnachwyr Ffrengig i Wlad yr Iâ gan fyw yn Grundarfjörður gan adeiladu esglwys ac ysbyty yno. Mae'r dref wedi tyfu'n gyfoethog o ganlyniad i'r diwydiant bysgota a gwelir tai moethus yn yr ardal.
Roedd sawl adeilad yn sefyll ar bentir o'r enw Framnes. Defnyddiwyd yr enw hwn tan tua 1940 ar gyfer y lle. Ar ôl hynny, gelwir y lle Grafarnes neu Grundarfjörður, hyd nes y bu pleidlais yn 1965 pen bleidleisiwyd dros yr enw Grundarfjörður.
Mae'r ffordd i dref Stykkishólmur sydd gerllaw yn croeso maes lafa Berserkjahraun. Daw'r enw am y maes lafa yma o saga Eyrbyggja. Yn ôl y stori fe laddwyd dau Berserker gan ei meistr, oherwydd i un ohonynt gwympo mewn cariad gyda merch y meistr.
Poblogaeth
golyguGrundarfjörður yw un o'r ychydig leoedd i ffwrdd o ranbarth y brifddinas yng Ngwlad yr Iâ, y mae ei phoblogaeth wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o leiaf tan 2005. Ar y naill law, mae hyn oherwydd natur broffidiol pysgota yma ac, ar y llaw arall, i ehangu'r seilwaith yn y blynyddoedd diwethaf. Wedi hynny, gellir gweld ychydig o ddirywiad, gyda chynnydd bach yn y boblogaeth tan 2008.
Dyddiad | Poblogaeth |
---|---|
1 Rhag. 1981: | 792 |
1 Rhag. 1997: | 920 |
1 Rhag. 2003: | 936 |
1 Rhag. 2004: | 938 |
1 Rhag. 2005: | 974 |
1 Rhag. 2006: | 954 |
1 Rhag. 2007: | 918 |
1 Rhag. 2008: | 921 |
Gyfeilldref
golygu- Pempoull, Llydaw, Ffrainc