Roedd Guan Hanqing (Tsieineeg 關漢卿) (fl. tua 1241-1320), a elwid hefyd "Henwr y Fyfyrgell" (齋叟 Zhāisǒu), yn ddramodydd yn yr iaith Tsieineeg lafar, a anwyd yn Dadu, prifddinas Ymerodraeth yr Yuan (Anguo, talaith Hebei, Tsieina heddiw). Fe'i ystyrir yn un o bedwar dramodydd mawr y Ddrama Yuan.

Guan Hanqing
Ganwyd1210 Edit this on Wikidata
Zhongdu Edit this on Wikidata
Bu farw1298 Edit this on Wikidata
Khanbaliq Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrenhinllin Yuan, Brenhinllin Jin Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd, bardd, llenor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Injustice to Dou E Edit this on Wikidata
Arddulldrama Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ar ôl goresgyn Teyrnas Jin yng ngogledd Tsieina, sefydlodd y Mongoliaid ei brifddinas yn Cambaluc (neu Khan-balic) yn 1264. Yn 1279, yn sgîl dymchweliad Brenhinllin Song y De, daeth Cambaluc yn brif ganolfan economaidd, wleidyddol a diwyllianol y wlad. Aeth nifer o lenorion gorau'r cyfnod i fyw yn Cambaluc a sefydlasant Gymdeithas Llyfrau Yu-jing yno. Daeth Yuan Hanqing yn aelod o'r gymdeithas honno ac enillodd enw iddo'i hun yn fuan. Yn ystod ei ieunctid bu'n fyfyriwr dyfal a dysgodd cyfansoddi cerddi a chaneuon o bob math, clasurol a phoblogaidd. Daeth yn adnabyddus yn y brifddinas am allu cerddorol, ei synnwyr digrifwch, a'i hyblygrwydd fel llenor.

Gyrfa Yuan

golygu

Roedd y cyfnod rhwng canol y 13g a dechrau'r 14g yn Oes Aur drama Yuan a llifai nifer fawr o ddramodwyr o fri i Cambaluc. Yn ystod ei arosiad yno ffurfiodd Yuan Hanqing gwmni drama ac weithiau troediai'r llwyfan ei hun. Roedd felly'n gyfarwydd â phob agwedd o fyd y ddrama.

Rhwng yr 11g a'r 13g roedd y canu a'r dawnsio i gyd yn y dramau a'r operau Tsieineaidd yn cael ei berfformio gan ferched "singsong". Roedd llawer o'r merched hyn wedi cael eu gwerthu i buteindai gan eu rhieni tlawd neu wedi'u hanfon iddynt am fod eu teuluoedd wedi gwrthwynebu'r llywodraeth. Mewn canlyniad roedd ei statws cymdeithasol yn isel iawn. Roedd Guan Hanqing yn llawn cydymdeimlad â nhw a merched a dynion eraill oedd yn byw ar ymylon cymdeithas. Am ei bod yn eu hadnabod mor dda roedd yn awyddus i hyrwyddo eu hachos yn yr unig ffordd a fedrai, sef trwy ei ddramâu. Dysgodd hefyd nifer o dechnegau canu a dawnsio gwerinol, ynghyd ag iaith y werin, ac ymgorfforodd yr elfennau hyn yn ei ddramâu.

Ei ddramâu

golygu

Ysgrifennodd Guan y rhan fwyaf o'i ddramau yn ail hanner y 13g. Roedd yn ddramodydd toreithiog. Mae teitlau dros 60 o'i ddramâu yn adnabyddus heddiw ac mae testunau deunaw ohonynt ar glawr.

Mae rhai ohonynt yn trin pynciau cymdeithasol, er enghraifft:

  • Eira ganol haf
  • Y dyn a ladratai wragedd priod
  • Breuddwyd y Pili-pala

Mae eraill yn cymryd cariad a phriodas (yn erbyn yr ewyllys) yn themâu:

  • Y dyn a achubwyd gan hoeden
  • Y pafiliwn ar lan yr afon
  • Y ffrâm drych siét

Ysgrifennodd hefyd ddramâu hanesyddol. Y ddwy sy fwyaf adnabyddus yw:

  • Yr Arglwydd Guan yn y wledd
  • Marwolaeth y Cadfridog Esgyll-Deigr

Llyfryddiaeth

golygu
  • Yang Xianji a Gladys Yang (gol.), Selected Plays of Guan Hanqing (Beijing, 1958; argraffiad newydd, 1979)