Guwahati
Prifddinas talaith Assam yng ngogledd-ddwyrain India yw Guwahati (ffurfiau amgen: Gauhati, Gawahati). Mae'n gorwedd ar lan Afon Brahmaputra. Ei hen enw oedd Pragjyotishpura a cheir cyfeiriad ati yn y Mahabharata. Heddiw mae'n ganolfan ranbarthol bwysig a amgylchynnir gan nifer o gerddi te. Mae'r diwydiant olew yn bwysig hefyd. Ceir nifer o demlau Hindŵaidd yn y ddinas. Mae'n gartref hefyd i Amgueddfa Talaith Assam.
![]() | |
Math | dinas, dinas fawr ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,116,267 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+05:30 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Kamrup Metropolitan district ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 216 km² ![]() |
Uwch y môr | 51 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 26.1722°N 91.7458°E ![]() |
Cod post | 781001 ![]() |
![]() | |
Mae'r rheilffordd yn cysylltu Guwahati a dinasoedd New Jalpaiguri a Calcutta yng Ngorllewin Bengal.