Dull o gludo nwyddau neu bobl ar drên a wagenau sy'n mynd ar gledrau yw rheilffordd a hynny ar daith bendant gan nad yw'r trên yn gwyro o'r daith (yn wahanol i gar neu feic). Gellir dosbarthu'r gwahanol fathau o reilffyrdd yn sawl dosbarth gan gynnwys Rheilffyrdd Bach ar gyfer yr ymwelydd a'r rheilffyrdd a ddefnyddir yn ddyddiol gan gymudwyr.

Rheilffordd yn yr Ariannin.
Gorsaf reilffordd Blaenau Ffestiniog

Cledrau dur a ddefnyddir bellach er bod cledrau haearn wedi cael eu defnyddio ers y 18g, a wagenau yn cael eu tynnu gan geffylau ar gledrau pren hefyd. Daeth rheilffyrdd yn bwysig iawn i gludo glo, haearn a nwyddau eraill yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.

Y peiriant stêm cyntaf i redeg ar gledrau oedd un Richard Trevithick ar 12 Chwefror 1804. Tynnodd cerbyd Trevithick ddeg tunnell o haearn a 70 o ddynion o waith haearn Penydarren Merthyr Tudful mor bell ag Abercynon, ond yr oedd yn rhy drwm ac felly ddim yn effeithiol iawn. Ni dderbyniwyd y syniad a bu farw yn fethdalwr. Y rheilffordd stêm lwyddiannus gyntaf oedd Rheilffordd Stockton and Darlington. Dilynwyd hon yn fuan gan Rheilffordd Lerpwl a Manceinion gyda pheiriant enwog o'r enw Rocket gan George Stephenson

Trên diesel First Great Western ger Bryste

Mae'r rheilffyrdd yn defnyddio ynni yn llawer mwy effeithlon nag unrhyw fodd o gludiad peirianyddol arall - car, awyren neu llong. Mae trên yn defnyddio rhyw 50 - 70% yn llai o ynni i gludo pwysau penodedig o gymharu â thrafnidiaeth ffordd. Y prif rheswm dros hyn yw bod llai o ffrithiant rhwng olwynion a chledrau o gymharu â'r hyn a geir ar ffordd.Yn ogystal, mae arwynebedd blaen trên yn llai na'r hyn a geir ar gerbydau eraill, gan leihau'r gwrthiant aer. Mae'r effeithlonrwydd hwn yn golygu fod gan drafnidiaeth trên ôl troed ecolegol llai, ac yn gyfrannu llai at newid hinsawdd, na thrafnidiaeth ffordd. Er hynny, fe all brisiau uchel arwain at siwrneau lle mae trên yn eithaf wag, gan leihau'r effeithlonrwydd.

Rheilffyrdd Cymru golygu

Adeiladwyd y rheiffordd gyntaf yng Nghymru yn 1842 rhwng Merthyr Tudful a Chaerdydd. Yn y can mlynedd a ddilynodd, fe dyfodd rwydwaith o rheilffyrdd dros Gymru gyfan, gan hwyluso trafnidiaeth pobl a nwyddau i ac o Loegr, yn ogystal ag o fewn Cymru. Mae rhai o'r rheilffyrdd hyn yn dal i redeg, ond fe fu i eraill gau, y rheilffyrdd mawr yn sgîl adroddiad Dr Beeching yn 1963, a'r rheilffyrdd bychain yn sgîl dirywiad diwydiant. Erbyn hyn, mae'r tri prif llwybr yng Nghymru fel a ganlyn: Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru (o Gaergybi i Gaer a Crewe), Prif Lein y De (o Abertawe i Gasnewydd a Bryste), ac ar hyd y Gororau (o Gasnewydd i Amwythig). Yn ogystal, mae yna lwybrau gwledig, gan gynnwys Rheilffordd Dyffryn Conwy rhwng Blaenau Ffestiniog a Llandudno yn y gogledd, Rheilffordd Calon Cymru, Rheilffordd y Cambrian, a Rheilffordd Gorllewin Cymru o Abertawe i Gaerfyrddin, Penfro, Aberdaugleddau ac Abergwaun.

Mae Cymru yn adnabyddus am ei rheilffyrdd hanesyddol lled cul, er enghraifft Rheilffordd Corris a Rheilffordd Dyffryn Rheidol.

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: