Gwaharddiad hedfan
Gosodir gwaharddiad hedfan i atal awyrennau rhag hedfan dros diriogaeth benodol. Gan amlaf milwrol yw eu natur, yn debyg i ardal ddadfilwredig yn yr awyr, ac maent yn gwahardd awyrennau milwrol lluoedd gelyniaethus rhag gweithredu yn yr ardal. Mae gwaharddiadau hedfan hanesyddol o'r fath yn cynnwys gwaharddiadau hedfan dros Irac (1993–2003), Ymgyrch Gwahardd Hedfan dros Bosnia a Hercegovina (1993–1995), a'r gwaharddiad dros Libia (2011–presennol).