Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd

(Ailgyfeiriad o NATO)

Cynghrair milwrol rhynglywodraethol a sefydlwyd ym 1949 i gefnogi Cytundeb Gogledd yr Iwerydd a arwyddwyd yn Washington, D.C. ar 4 Ebrill 1949 yw Cyfundrefn Cytundeb Gogledd Iwerydd[1] (Saesneg: North Atlantic Treaty Organisation neu NATO; Ffrangeg: l'Organisation du traité de l'Atlantique nord neu OTAN).

Cyfundrefn Cytundeb Gogledd Iwerydd
North Atlantic Treaty Organization (NATO)
Organisation du traité de l'Atlantique nord (OTAN)

Baner NATO
Baner NATO

Gwledydd NATO mewn gwyrdd.
Gwledydd NATO mewn gwyrdd.

PencadlysBrwsel, Gwlad Belg
Aelodaeth30 o wladwriaethau
Iaith / Ieithoedd swyddogolSaesneg
Ffrangeg
Ysgrifennydd CyffredinolJens Stoltenberg
Cadeirydd Pwyllgor Milwrol NATOGiampaolo Di Paola
Sefydlwyd4 Ebrill 1949
MathCynghrair milwrol
Gwefannato.int

Erthygl bwysicaf y Cytundeb Gogledd yr Iwerydd yw erthygl V, sy'n dweud fod ymosodiad ar unrhyw aelod y NATO yn golygu ymosodiad ar bawb ac y bydd Siarter y Cenhedloedd Unedig yn sylfaen i amddiffyn milwrol. Y rheswm dros yr erthygl oedd pryder am ymosodiad gan yr Undeb Sofietaidd yn ystod y Rhyfel Oer. Yn ôl yr erthygl hon mae pob ymosodiad yn golygu ymosodiad ar Unol Daleithiau America, pŵer milwrol mwyaf y byd, ac felly gweithredodd y cynghrair fel atalrym.

Ers diwedd y Rhyfel Oer mae NATO wedi cymryd rhan mewn nifer o ymgyrchoedd y tu allan i'w ardal, hynny yw y tu allan i diriogaeth aelod-wladwriaethau'r cynghrair.

Ymgyrchoedd milwrol golygu

Ymyraethau yn y Balcanau golygu

"Amddiffyn yn Siarp" (Sharp Guard) oedd ymgyrch filwrol gyntaf NATO yn yr hen Iwgoslafia, a hynny rhwng Mehefin 1993 a Hydref 1996. Ei bwrpas oedd atgyfnerthu trwy rym milwrol ei lynges yr embargo arfau a sancsiynau economaidd yn erbyn Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia yn ystod Rhyfel Bosnia. Ar 28 Chwefror 1994, saethwyd pedair awyren Bosnia-Serb a oedd yn hedfan dros ardal gwaharddiad hedfan yng nghanol Bosnia-Hertsegofina. Yn Awst 1995, yn dilyn cyflafan Srebrenica cychwynnodd NATO fomio byddin Republika Srpska. Parhaodd yr ymgyrch hyd at Ragfyr 1995.

Ar 24 Mawrth 1999, ac am gyfnod o 11 wythnos, dechreuodd byddin NATO fomio Gwladwriaeth Ffederal Iwgoslafia mewn ymgyrch a alwyd yn Ymgyrch Grym Cynghreiriol (Operation Allied Force), gyda'r nod i atal byddin Serbia rhag lladd sifiliaid yn Kosovo. Daeth ymgyrch NATO i ben ar 11 Mehefin 1999 pan gyhoeddodd arweinydd Iwgoslafia Slobodan Milošević ei barodrwydd i dderbyn Penderfyniad 1244 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.

Ymgyrchoedd yn Affganistan golygu

Prif: ISAF

Ymgyrch Tarian y Cefnfor golygu

Gweler hefyd: Môr-ladrad yn Somalia.

Gan ddechrau ar 17 Awst 2009, gosododd NATO llongau rhyfel mewn ymgyrch i amddiffyn gludiant arforol yng Ngwlff Aden a Chefnfor India rhag môr-ladron Somaliaidd.[2]

Ymyrraeth yn Libia golygu

Yn ystod gwrthryfel 2011 Libia, ymysg brwydro gan brotestwyr a gwrthryfelwyr yn erbyn llywodraeth Libia dan Muammar al-Gaddafi, ac ar 17 Mawrth 2011 pasiwyd Penderfyniad 1973 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig gan alw am gadoediad ac yn awdurdodi gweithredoedd milwrol er mwyn amddiffyn sifiliaid. Dechreuodd clymblaid gan gynnwys nifer o aelod-wladwriaethau NATO weithredu gwaharddiad hedfan dros Libia, ac ar 20 Mawrth cytunodd aelodau NATO i weithredu embargo arfau yn erbyn Libia trwy Ymgyrch Amddiffynnydd Unol. Ar 24 Mawrth cytunodd NATO i gymryd rheolaeth dros y gwaharddiad hedfan. Dechreuodd NATO weithredu Penderfyniad 1973 yn swyddogol ar 27 Mawrth gyda chymorth Qatar a'r Emiradau Arabaidd Unedig.

Aelodaeth golygu

Map yn dangos cysylltiadau â NATO yn Ewrop
 
     Aelodau NATO     Cynllun Gweithredol i Ymaelodi     Deialog Ddwys trafodaethau i ymaelodi bron wedi eu cwblháu       Cynllun Gweithredol dros Bartneriaeth Unigol cytundebau unigol gyda NATO
      Partneriaeth dros Heddwch

Mae NATO yn cynnwys 30 o aelodau: Albania, yr Almaen, Bwlgaria, Canada, Croatia, Denmarc, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Estonia, Ffrainc, Gogledd Macedonia, Gwlad Belg, Gwlad Groeg, Gwlad yr Iâ, Gwlad Pwyl, Hwngari, yr Iseldiroedd, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, Montenegro, Norwy, Portiwgal, Rwmania, Slofacia, Slofenia, Sbaen, y Weriniaeth Tsiec, Twrci, a'r Unol Daleithiau.

Ychwanegwyd 16 aelod newydd i NATO y 50 mlynedd ers iddo ffurfio ym 1949. Ymunodd Gwlad Groeg a Thwrci ym mis Chwefror 1952. Ymunodd yr Almaen ddwywaith: un waith fel Gorllewin yr Almaen ym 1955 ac ar ôl aduniad yr Almaen ym 1990 daeth dwyrain y wlad newydd yn aelod o NATO, hefyd. Ymunodd Sbaen ar 30 Mai 1982 a Gwlad Pwyl, Hwngari, a'r Weriniaeth Tsiec, cyn-aelodau Cytundeb Warsaw, ar 12 Mawrth 1999. Ymunodd cyn-aelodau Cytundeb Warsaw Bwlgaria, Estonia, Latfia, Lithwania, Rwmania, a Slofacia, a chyn-weriniaeth Iwgoslafia Slofenia ar 9 Mawrth 2004. Ymunodd Albania a Chroatia ar 1 Ebrill 2009. Ymunodd Montenegro ar 5 Mehefin 2017. Ymunodd Gogledd Macedonia ar 27 Mawrth 2020.

Ehangu yn y dyfodol golygu

Daw aelodaeth newydd i'r cynghrair yn bennaf o Ddwyrain Ewrop a'r Balcanau, yn cynnwys cyn-aelodau Cytundeb Warsaw. Yn uwchgynhadledd 2008 yn Bwcarést, gwnaed addewid i wahodd tair gwlad i ymuno yn y dyfodol: Gweriniaeth Macedonia,[3] Georgia, a'r Wcrain.[4] Er iddi gyflawni'r gofynion am aelodaeth, ataliwyd esgyniad Macedonia gan Wlad Groeg, hyd nes ceir datrysiad i'r anghydfod dros enw Macedonia.[5] Yn ogystal nid yw Cyprus wedi agosáu tuag at gysylltiadau pellach, yn rhannol oherwydd gwrthwyneb gan Dwrci.[6]

Mae gwledydd eraill bydd o bosib yn ymaelodi yn cynnwys Montenegro a Bosnia-Hertsegofina, a ymunodd â'r Siarter Adriatig o aelodau posib yn 2008.[7] Parheir Rwsia wrth wrthwynebu ehangu pellach gan NATO, gan ei weld yn anghyson â chytundebau rhwng yr arweinydd Sofietaidd Mikhail Gorbachev ac Arlywydd yr Unol Daleithiau George H. W. Bush tua diwedd y Rhyfel Oer a alluogwyd am aduniad heddychlon o'r Almaen. Ystyrid polisi ehangu NATO gan Foscfa fel parhad o geisiadau y Rhyfel Oer i amgylchynu ac ynysu Rwsia.[8]

Yn sgil Rhyfel Rwsia ar Wcráin a ddechreuodd ym mis Mawrth 2016 ond a ffrwydrodd i gyrch llawn yn Chwefror 2022, gorfodwyd Ffindir a Sweden ailystyried eu polisi hir oes o niwtraliaeth. Ar 29 Mehefin 2022 wedi trafod hir a thro-pedol yn strategaeth tramor a milwrol y ddwy wlad, cafodd Ffindir a Sweden gynnig i ymuno â NATO rhag bod Rwsia yn ymosod arnynt hwy hefyd.[9] Ar 4 Ebrill 2022 ymunodd Ffindir yn swyddogol â NATO gan ychwanegu ffin NATO 1,300km â Rwsia.[10] Gyda hynny, gwireddodd rhyfel Arlywydd Putin ar Wcráin ei ofn y byddai NATO yn ymestyn ymhellach a gwyrdowyd polisi niwtraliaeth Ffindir a arddelwyd ers yr Ail Ryfel Byd a adnabwyd fel Athrawiaeth Paasikivi–Kekkonen.

Hanes golygu

17 Mawrth 1948: Arwyddodd gwledydd Benelwcs, Ffrainc a'r Deyrnas Unedig Gytundeb Brwsel, rhagflaenydd Cytundeb NATO.

4 Ebrill 1949: Arwyddwyd Cytundeb Gogledd yr Iwerydd yn Washington, DC.

14 Mai 1955: Arwyddwyd Cytundeb Warsaw gan yr Undeb Sofietaidd a gwledydd eraill yn Nwyrain Ewrop er mwyn gwrthbwyso NATO. Gwrthwynebant ei gilydd yn ystod y Rhyfel Oer, ond ar ôl cwymp y Llen Haearn dechreuodd Cytundeb Warsaw ddatgymalu.

1966: Penderfynodd Charles de Gaulle, arlywydd Ffrainc, ddiddymu cydweithrediad Ffrainc yng nghyngor milwrol NATO a dechrau rhaglen amddiffyn niwclear ei hun. Mewn canlyniad, symudwyd pencadlys NATO o Baris i Frwsel ar 16 Hydref 1967.

31 Mawrth 1991: Daeth Cytundeb Warsaw i ben (yn swyddogol ar 1 Gorffennaf).

8 Gorffennaf 1997: Gwahoddwyd Hwngari, y Weriniaeth Tsiec a Gwlad Pwyl i ymuno â NATO. Ymunasant yn 1999.

24 Mawrth 1999: Cyrch milwrol cyntaf NATO yn ystod y Rhyfel yn Kosovo; gweler uchod.

12 Medi 2001: Gweithredwyd Erthygl 5 y cytundeb am y tro cyntaf erioed ar ôl yr ymosodiad terfysgol ar Ganolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd.

21 Tachwedd 2002: Gwahoddwyd Estonia, Latfia, Lithwania, Slofenia, Slofacia, Bwlgaria a Rwmania i ymuno â NATO. Ymunasant ar 29 Mawrth 2004. Mae'n bosibl bydd Albania a Chyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia yn cael ymuno yn y dyfodol, ond bydd rhaid cyflawni amodau economaidd, gwleidyddol a milwrol cyn hynny. Ymgeisiodd Croatia ymuno yn 2002.

10 Chwefror 2003: Roedd NATO yn wynebu argyfwng am fod Ffrainc a Gwlad Belg ddim yn cytuno ar fesurau i amddiffyn Twrci pe bai rhyfel yn erbyn Irac. Doedd yr Almaen ddim yn anghytuno yn swyddogol, ond roedd yn dweud bod hi'n cefnogi'r feto.

16 Ebrill 2002: Cytunodd NATO i anfon y Llu Cynorthwyol Diogelwch Rhyngwladol (ISAF) i Affganistan. Dyma oedd y tro cyntaf i NATO benderfynu gweithredu y tu allan i'w ffiniau gweithredu swyddogol.

19 Mehefin 2003: Newidiwyd strwythur milwrol NATO: Sefydlwyd Trawsnewidiad Rheolaeth y Cynghrair (Allied Command Transformation) i gymryd lle Prif Reolwr y Cynghrair (Supreme Allied Commander).

29 Mawrth 2004: Ymunodd Bwlgaria, Estonia, Latfia, Lithwania, Rwmania, Slofacia a Slofenia â NATO.

1 Ebrill 2009: Ymunodd Albania a Chroatia â NATO.

5 Mehefin 2017: Ymunodd Montenegro â NATO.

27 Mawrth 2020: Ymunodd Gogledd Macedonia â NATO.

4 Ebrill 2023: Ymunodd Ffindir â NATO.[11]

Ysgrifenyddion Cyffredinol NATO golygu

  1. Yr Arglwydd Ismay (Y Deyrnas Unedig): 4 Ebrill 195216 Mai 1957
  2. Paul-Henri Spaak (Gwlad Belg): 16 Mai 195721 Ebrill 1961
  3. Dirk Stikker (Yr Iseldiroedd): 21 Ebrill 19611 Awst 1964
  4. Manlio Brosio (Yr Eidal): 1 Awst 19641 Hydref 1971
  5. Joseph Luns (Yr Iseldiroedd): 1 Hydref 197125 Mehefin 1984
  6. Yr Arglwydd Carington (Y Deyrnas Unedig): 25 Mehefin 19841 Gorffennaf 1988
  7. Manfred Wörner (Yr Almaen): 1 Gorffennaf 198813 Awst 1994
  8. Sergio Balanzino (Yr Eidal, gweithredol): 13 Awst17 Hydref 1994
  9. Willy Claes (Gwlad Belg): 17 Hydref 199420 Hydref 1995
  10. Sergio Balanzino (Yr Eidal, gweithredol): 20 Hydref5 Rhagfyr 1995
  11. Javier Solana (Sbaen): 5 Rhagfyr 19956 Hydref 1999
  12. George Robertson (Y Deyrnas Unedig): 14 Hydref 19991 Ionawr 2004
  13. Jaap de Hoop Scheffer (Yr Iseldiroedd): 1 Ionawr 20041 Awst 2009
  14. Anders Fogh Rasmussen (Denmarc): 1 Awst 20091 Hydref 2014
  15. Jens Stoltenberg (Norwy): 1 Hydref 2014 – presennol.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, d.g. [north], [organization].
  2. (Saesneg) Operation Ocean Shield. Manw.nato.int.
  3. Mewn datganiadau swyddogol NATO, cyfeirir at y wlad fel "cyn-Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia", gyda throednodyn yn dweud "mae Twrci yn adnabod Gweriniaeth Macedonia dan ei enw cyfansoddiadol"; gweler anghydfod dros enw Macedonia.
  4. George J, Teigen JM (2008). NATO Enlargement and Institution Building: Military Personnel Policy Challenges in the Post-Soviet Context, European Security, Cyfrol 17, Rhifyn 2, tud. 346. DOI:10.1080/09662830802642512URL
  5. "Croatia & Albania Invited Into NATO", BalkanInsight, 3 April 2008.
  6. Simsek, Ayhan. "Cyprus a sticking point in EU-NATO co-operation", Southeast European Times, 14 Mehefin 2007.
  7. Ramadanovic, Jusuf a Rudovic, Nedjeljko. "Montenegro, BiH join Adriatic Charter", Southeast European Times, 12 Medi 2008.
  8. "Condoleezza Rice wants Russia to acknowledge United States's interests on post-Soviet space", Pravda, 4 Mai 2006.
  9. {{cite web |url=https://newyddion.s4c.cymru/article/8590 |title=Sweden a'r Ffindir yn cael cynnig ffurfiol i ymuno gyda NATO |publisher=Newyddion S4C]] |date=[[29 Mehefin 2023}}
  10. "Disgwyl i'r Ffindir ymuno â NATO yn swyddogol ddydd Mawrth". Newyddion S4C. 4 Ebrill 2023.
  11. "Disgwyl i'r Ffindir ymuno â NATO yn swyddogol ddydd Mawrth". Newyddion S4C. 4 Ebrill 2023.

Dolenni allanol golygu