Gwaith Mynyddog (Cyfres y Fil)
Mae Gwaith Mynyddog Cyfrol 1 a Gwaith Mynyddog Cyfrol 2 yn ddwy gyfrol o gerddi gan Richard Davies (Mynyddog)[1] a olygwyd gan D Emlyn Evans[2] ac a gyhoeddwyd gan Owen Morgan Edwards fel rhan o'i Gyfres y Fil ym 1914[3] a 1915. Bu farw Emlyn Evans cyn gorffen golygu Cyfrol 2, felly Edwards ei hun a orffennodd y gwaith.
Hen Fynwent Llanbrynmair |
Cefndir
golyguRichard Davies (Mynyddog) (10 Ionawr 1833 – 14 Gorffennaf 1877) oedd yn un o feirdd mwyaf poblogaidd Cymru yn ystod diwedd y Cyfnod Fictoraidd. Cyhoeddodd 3 llyfr o gerddi yn ystod ei oes:
- Caneuon Mynyddog (Wrecsam, 1866)
- Yr Ail Gynnig (Wrecsam, 1870)
- Y Trydydd Cynnig (Wrecsam, 1877)
Roedd pedwerydd llyfr wedi ei baratoi i'r wasg ar adeg ei farwolaeth a gyhoeddwyd ym 1882
- Pedwerydd Llyfr Mynyddog (Wrecsam, 1882)
Mae'r rhagymadrodd i'r gyfrol gyntaf o Waith Mynyddog yng Nghyfres y Fil yn dweud bod O M Edwards wedi bod yn siarad â chwaer Fynyddog. Rhoddodd hi wybod iddo fod "lliaws mawr o'i ganeuon gorau, y caneuon olaf ganodd, heb eu cyhoeddi, yn eu mysg ganeuon glywswn i ef yn ganu. Ar fy nghais, paratôdd y diweddar D. Emlyn Evans y gyfrol hon i'r wasg."[4] Wedi cael gafael ar swp o "ganeuon coll" gan y chwaer, aeth O M i holi Mrs A E Davies, gweddw Fynyddog i holi os oedd ychwaneg yn ei meddiant hi a chael gwybod bod. Caneuon yng ngofal y chwaer sydd yng Nghyfrol 1 a rhai yng ngofal y weddw sydd yn gyfrol 2.[5] Doedd Mrs Davies ddim mor awyddus a'i chwaer yng nghyfraith i gyhoeddi'r cerddi oedd ganddi hi gan ei bod yn gwybod eu bod yn ganeuon yn rhai penderfynodd y bardd i beidio â chynnwys yn ei lyfrau.
Y cerddi
golyguMae'r casgliadau yn cynnwys 154 o gerddi (77 yr un yn y ddwy gyfrol) mewn amrywiol arddulliau – englynion, cerddi doniol, emynau, cerddi dwys, cerddi i'w hadrodd, cerddi i'w canu. Caneuon gwladgarol Cymreig a chaneuon o glod i Brydain, Yr Ymerodraeth a'r Frenhines Victoria.
Mae sganiau a thrawsgrifiadau o'r ddwy gyfrol ar Wicidestun.
Ysgrifennwyd y llyfrau cyn cyhoeddi ''Orgraff Yr Iaith Gymraeg'' ym 1929, mae sillafiad teitlau'r cerddi fel y maent yn orgraff y cyhoeddwr
Cyfrol 1
golyguBydd rhoi clec ar y ddolen yn mynd at drawsgrifiad o'r gerdd ar Wicidestun
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
- YSGUB NEWYDD
- Y MELINYDD
- FY NGWRAIG A FI
- PWY SY'N CNOCIO WRTH Y FFENESTR GEFN?
- NYTH HEB FÊL
- ADFERIAD IECHYD
- NI WN I DDIM YN WIR
- PYMTHEG MLYNEDD YN OL
- DARLLAWDY Y TEBOT
- CARU
- Y DDANNODD
- Y "SLEEPING-CAR"
- FELLY'N WIR
- MAE CARIAD YN DDALL
- ADREF AT MAM
- Y CORWYNT
- Y LLYGOD YN CHWAREU
- YR EIRA
- SOFREN NEU DDWY
- Y NIAGARA
- "DYW MAM DDIM HANNER BODDLON"
- AROS TAN DDEG
- IANCI
- Y CYMRO PUR
- DYNES
- GWYN Y GWEL Y FRAN EI CHYW
- IANCI 2
- Y MELINYDD
- UN LLOER YN LLADD Y LLALL
- EISTEDDFOD PORTHMADOG
- 'RWY'N GYMRO PUR
- DYNA MAE POBL YN DDWEYD
- DEIGRYN AR FEDD
- FY AELWYD FY HUN
- RHOWCH EICH HUN YN EI LE
- COFIWCH BEIDIO DWEYD
- GŴR A GWRAIG
- EISTEDDFOD Y WYDDGRUG
- MAE EISIEU RHYWBETH O HYD
- EISTEDDFOD MADOG
- LAWR A DIC SION DAFYDD
- Y LLWYNOG A'R FRAN
- YR EISTEDDFOD
- DYDD GWYL DEWI
- Y BYD YN MYND
- CHWAREU TEG I'R MERCHED
- GWYLIA DY HUN
- NOS A DYDD YN DANGOS DUW
- CADW DY GROEN YN IACH
- PERTHYNASAU
- "I'R PANT Y RHED Y DWR"
- ROEDD MAM YN SIGLO BABAN LLON
- EISTEDDFOD FFESTINIOG, SULGWYN, 1875
- ARHOSWCH DIPYN BACH
- Y FFASIWN
- GWEN O GOED Y DDÔL
- Y MOCH YN YR HAIDD
- I MARY
- MORFUDD PUW
- MYFANWY Y GLYN
- 'DWY'I DDIM YN IANCI ETO
- BERWI I LAWR
- Y TEITHIWR AR Y MYNYDD
- EISTEDDFOD ENLLI
- GWLAD FY NHADAU
- CAN Y GWEITHIWR
- Y GWAREDWR
- PEN Y MYNYDD
- DOES DIM YN Y PAPUR
- GOGONIANT I BRYDAIN
- MAE'N OLAU YN Y NEFOEDD
- I FYNY MAE YMWARED
- STATION AFON WEN
- AR LAN Y DDYFRDWY LONYDD
- AR LAN Y WEILGI UNIG
- IACHAWDWRIAETH
- PRYDNAWN BYWYD
Cyfrol 2
golyguBydd rhoi clec ar y ddolen yn mynd at drawsgrifiad o'r gerdd ar Wicidestun
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
- HEN ADGOFION
- CHWI FEIBION DEWRION
- CYMRU, GWLAD Y GAN
- SIOM SERCH
- TARO YR HOEL AR EI PHEN
- CYMRU FU, a CHYMRU FYDD
- PERTHYNASAU'R WRAIG
- GORNANT FECHAN
- Y 'DERYN YSGAFNAF YN UCHAF
- PURDEB
- DDAW HI DDIM
- AWN, AWN I'R GAD
- EISTEDD MEWN BERFA
- Y FRWYDR
- ENWAU
- YR HEULWEN
- FFUGENWAU
- FY NGHALON FACH
- TYSTEBAU
- RHOWCH BROC I'R TAN
- MI SAETHAIS GAN
- WELWCH CHWI FI?
- "WILLIAM"
- GEIRIAU LLANW
- GWRANDO'N RASOL AR EIN CRI
- Y MEDLEY CYMRAEG
- DYCHWELIAD Y MORWR
- DYSGWCH DDWEYD "NA"
- GEIRIAU CYDGAN GYSEGREDIG
- OWEN TUDUR
- Y DDRAENEN WEN
- IFAN FY NGHEFNDER
- YR HWN FU FARW AR Y PREN
- CHWEDL Y TORRWR BEDDAU
- SYR WATCYN WILLIAMS WYNN
- LILI CWM DU
- FFARWEL Y FLWYDDYN
- CORN Y GAD
- GWYL DEWI SANT
- 'RWY'N DISGWYL Y POST
- CLYWCH Y FLOEDD I'R FRWYDR
- DYMA BEDWAR GWEITHIWR
- HEN AWRLAIS TAL Y TEULU
- HEN GYMRY OEDD FY NHADAU
- DYFODIAD YR HAF
- DALEN CYFAILL
- DEWCH I GNEUA
- LOLIAN A LILI
- Y FFARMWR
- O DEWCH TUA'R MOELYDD
- Y GÔF
- CLYWCH Y FLOEDD I'R GAD
- Y DDWY BRIODFERCH
- BETH SYDD ANWYL
- Y GLOWR A'R CHWARELWR
- BAD-GAN
- Y FRENHINES A'R GLOWR
- DYCHYMYG, HEDA
- OS DU YW'R CWMWL
- CWSG, FILWR, CWSG
- AR GANOL DYDD
- RHYWUN
- YSGYDWAD Y LLAW
- GRUFFYDD AP CYNAN
- Y BLODYN GWYWEDIG
- WYLIWN! WYLIWN!
- MAM
- Y LLYGAID DUON
- CWYNAI CYMRU
- GALAR! GALAR! GALAR!
- MAES GARMON
- Y DYN HANNER PAN
- O DEWCH I BEN Y MYNYDD
- OS YDYM AM FYND TRWY Y BYD
- MIL MWY HUDOL
- O! DEDWYDD BOED DY HUN
- 'RWY'N DOD, 'RWY'N DOD
Y Darluniau
golyguYn ogystal â'r cerddi mae'r gyfrolau yn cynnwys 11 llun, rhai yn ymwneud â bywyd Mynyddog, lluniau ohono ef a'i gartrefi, ac eraill i ddarlunio rhai o'r cerddi ee llun o ofaint i ddarlunio cerdd Y gof. Mae'r cyfan o'r lluniau yn rai o ardal Llanbrynmair lle fu'r bardd yn fyw. John Thomas, Galeri Cambrian, Lerpwl, tynnodd y rhan fwyaf o'r lluniau.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "DAVIES, RICHARD ('Mynyddog'; 1833 - 1877), bardd, datgeiniad, ac arweinydd eisteddfodau | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-01-09.
- ↑ "EVANS, DAVID EMLYN (1843 - 1913), cerddor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-01-09.
- ↑ "Cymru | Vol. 46 | 1914 | Cylchgronau Cymru - Llyfrgell Genedlaethol Cymru". cylchgronau.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2022-01-09.
- ↑ Gwaith Mynyddog Cyfrol 1-Rhagymadrodd, ar Wicidestun
- ↑ Gwaith Mynyddog Cyfrol 2-Rhagymadrodd, ar Wicidestun