Cyfres y Fil
Cyfres o lyfrau Cymraeg a gyhoeddwyd ac a olygwyd gan Owen Morgan Edwards rhwng 1901 a 1916 yw Cyfres y Fil. Fe'i henwir felly am fod y golygydd wedi galw am fil o danysgrifwyr i'r gyfres yn ei gylchgrawn Cymru. Bwriad O. M. Edwards oedd cael cyfres o argraffiadau safonol, deniadol a rhad o waith prif lenorion y Gymraeg. Maent yn llyfrau bychain unffurf gyda chloriau glas tywyll, wedi'u hargraffu yn gain. Cafwyd 37 o gyfrolau (yn cynnwys geiriadur Cymraeg) cyn i'r gyfres fethu ym 1916 oherwydd diffyg gwerthiant. Cawsant eu cyhoeddi gan y golygydd yn Llanuwchllyn, Meirionnydd. Maent yn debyg iawn o ran diwyg i'r gyfres Llyfrau ab Owen, a chymysgir rhyngddynt weithiau.
Cynwyswyd yn y gyfres gwaith llenorion fel Dafydd ap Gwilym (1901), Iolo Goch (1915), Goronwy Owen (dwy gyfrol, 1902), Iolo Morgannwg (1913) ac nifer o awduron eraill.
Teitlau
golygu- Gwaith Dafydd ab Gwilym (1901)[1]
- Gwaith Goronwy Owen - Cyfrol I (1902)
- Gwaith Goronwy Owen - Cyfrol II (1902)
- Gwaith Ceiriog (1902)[2]
- Gwaith Huw Morus (1902)
- Beirdd y Berwyn (1903)
- Gwaith Ap Vychan (1903) [3]
- Gwaith Islwyn (1903)[4]
- Gwaith Owen Gruffydd (1904)
- Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr) (1904)
- Gwaith Edward Morus (1904)
- Gwaith John Thomas (1905)[5]
- Gwaith Glan y Gors (1905)
- Gwaith Gwilym Marles (1905)[6]
- Gwaith Ann Griffiths (1905)[7]
- Gwaith Eben Fardd (1906)
- Gwaith Samuel Roberts (S.R.) (1906)[8]
- Gwaith Dewi Wyn (1906)
- Gwaith Joshua Thomas (1907)
- Geiriadur Cymraeg (1907)
- Gwaith Ieuan Glan Geirionydd (1908)
- Gwaith yr Hen Ficer (Ficer Prichard) (1908)
- Gwaith Alun (1909)[9]
- Gwaith Twm o'r Nant - Cyfrol I (1909)
- Gwaith Twm o'r Nant - Cyfrol II (1910)Gwaith Twm o'r Nant Cyf II ar Wicidestun</ref>
- Yr Hwiangerddi (1910)
- Gwaith Gwilym Hiraethog (1911)[10]
- Beirdd y Bala (1911)
- Y Diarhebion (1912)
- Gwaith Edward Richard ac Ieuan Brydydd Hir (1912)
- Gwaith Caledfryn (1913)
- Gwaith Iolo Morgannwg (1913)
- Gwaith Mynyddog - Cyfrol I (1914)[11]
- Gwaith Sion Cent (1914)
- Gwaith Iolo Goch (1914)
- Gwaith Mynyddog - Cyfrol II (1915)[12]
- Gwaith Emrys (1916)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwaith Dafydd ap Gwilym ar Wicidestun
- ↑ Gwaith Ceiriog ar Wicidestun
- ↑ Gwaith ap Vychan ar Wicidestun
- ↑ Gwaith Islwyn ar Wicidestun
- ↑ Gwaith John Thomas ar Wicidestun
- ↑ Gwaith Gwilym Marles ar Wicidestun
- ↑ Gwaith Ann Griffiths ar Wicidestun
- ↑ Gwaith S.R. ar Wicidestun
- ↑ Gwaith Alun ar Wicidestun
- ↑ Gwaith Gwilym Hiraethog ar Wicidestun
- ↑ Gwaith Mynyddog Cyfrol 1 ar Wicidestun
- ↑ Gwaith Mynyddog Cyfrol 2 ar Wicidestun