Gwaith dur Bethlehem

gwaith dur 120 erw yn nhalaith Pennsylvania

Roedd Gwaith Dur Bethlehem yn waith mawr ym Methlehem, Pennsylvania, yn cynnwys 120 erw. Caewyd y gwaith ar 18 Tachwedd 1995, ar ôl 140 mlynedd o gynhyrchu dur.

Gwaith dur Bethlehem
Mathsteel mill Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBethlehem Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Arwydd ar y safle

Agorwyd y gwaith ym 1863 gan Gwmni Haearn Saucona, yn creu cledrau haearn ar gyfer y rheilffordd leol. Creuwyd cledrau dur o 1873 ymlaen. Crewyd Cwmni Dur Bethlehem ym 1899, a daeth yn gorfforiaeth ym 1904.

Mae gan y safle 5 ffwrn, hyd at 230 troedfedd o uchder. Roedd 7 ar un adeg. Adeiladwyd yr un cyntaf ym 1915. Cynhyrchwyd rhwng 2,600 a 3,000 o dunnelli o haearn yn ddyddiol, y mwyafrif i greu dur.[1]

Ar ôl cau’r gwaith, penderfynodd Cwmni Dur Bethlehem cyfrannu at greu ardal diwyllianol yn i hwyluso’r celf, cerddoriaeth, chwaraeon, ymchwil, siopa a’r bywyd diwylliannol y dref yn gyffredinol.Agorwyd canolfan Steelstacks yn 2011 ac wedyn Phafiliwn Levitt a chanolfan darlledu PBS yn ystod yr un flwyddyn. Agorwyd canolfan ymwelwyr yn 2012. Erbyn hyn (2017), cynhelir dros 1000 cyngerdd ac 8 gŵyl yn flynyddol., gan gynnwys Musikfest, yr ŵyl rydd mwyaf yn y wlad.[1]

Cyfeiriadau

golygu