Agor y brif ddewislen

Mae Pennsylvania (hefyd yn Gymraeg Pensylfania)[1] yn un o daleithiau Unol Daleithiau America. Ei llysenw yw'r Dalaith Maen Clo a'i henw swyddogol yw Cymanwlad Pennsylvania. Y ddwy ddinas fwyaf yw Philadelphia a Phittsburgh.

Commonwealth of Pennsylvania
Cymanwlad Pennsylvania
Baner Pennsylvania Sêl Talaith Pennsylvania
Baner Pennsylvania Sêl Pennsylvania
Llysenw/Llysenwau: Keystone State; Quaker State;
Coal State; Oil State
Map o'r Unol Daleithiau gyda Pennsylvania wedi ei amlygu
Prifddinas Harrisburg
Dinas fwyaf Philadelphia
Arwynebedd  Safle 33ain
 - Cyfanswm 119,283 km²
 - Lled 255 km
 - Hyd 280 km
 - % dŵr 2.7
 - Lledred 39°43'G i 42°G
 - Hydred 74°43'Gor i 80°31'Gor
Poblogaeth  Safle 6ed
 - Cyfanswm (2010) 12,702,379
 - Dwysedd 23.86/km² (31ain)
Uchder  
 - Man uchaf Mynydd Davis
979 m
 - Cymedr uchder 335 m
 - Man isaf 0 m
Derbyn i'r Undeb  12 Rhagfyr 1787 (2il)
Llywodraethwr Tom Wolf (D)
Seneddwyr Bob Casey, Jr. (D)
Pat Toomey (G)
Cylch amser UTC -5/-4
Byrfoddau PA
Gwefan (yn Saesneg) www.state.pa.us

Gwladychwyd tiroedd eang i'r gogledd a'r gorllewin o Philadelphia gan Grynwyr o Gymru yn yr 17g, ac mae'n debyg y symbylwyd y gwladychiad gan y dyhead i gael rhyddid i addoli yn ôl eu credo. Mae'r nofel gan Marion Eames Y Rhandir Mwyn wedi ei seilio ar hanes y gwladychiad hwn.

Erbyn 1700, roedd un traean (33%) o'r dalaith yn Gymry. Ceir llawer o enwau lleoedd Cymraeg a Chymreig yma hyd heddiw - sy'n dyst i'r gwladychu hwn. Yn niwedd y 18g cafwyd ail don o wladychu, wedi'i arwain gan Morgan John Rhys o'r enw Cambria ac a elwir heddiw Tir Cambria (Cambria Country). Erbyn Cyfrifiad 2003-6 dim ond 1.5% oedd yn galw'u hunain 'o darddiad Cymreig'.[2]

Ar fur dwyreiniol Neuadd y Dref yn Philadelphia, er enghraifft, ceir plac sy'n cynnwys y geiriad hwn:

Perpetuating the Welsh heritage, and commemorating the vision and virtue of the following Welsh patriots in the founding of the City, Commonwealth, and Nation: William Penn, 1644-1718, proclaimed freedom of religion and planned New Wales later named Pennsylvania. Thomas Jefferson, 1743-1826, third President of the United States, composed the Declaration of Independence. Robert Morris, 1734-1806, foremost financier of the American Revolution and signer of the Declaration of Independence. Governor Morris, 1752-1816, wrote the final draft of the Constitution of the United States. John Marshall, 1755-1835, Chief Justice of the United States and father of American constitutional law.

Ceir ffiniau taleithiau: Delaware i'r de-ddwyrain, Maryland i'r de, Gorllewin Virginia i'r de-orllewin, Ohio i'r gorllewin, Llyn Erie ac Ontario, Canada i'r gogledd-orllewin, Efrog Newydd i'r gogledd a New Jersey i'r dwyrain. Asgwrn cefn y dalaith yw Mynyddoedd yr Appalachian sy'n gorwedd yng nghanol y dalaith, o'r gogledd i'r de.

Dinasoedd, trefi a'u poblogaethGolygu

 
Siroedd y Dalaith
Y dinasoedd mwyaf poblog yn Nhalaith Pennsylvania
Dinas Poblogaeth
Philadelphia
1,547,607
Pittsburgh
306,211
Allentown
118,974
Erie
101,047
Reading
88,102
Scranton
75,809
Bethlehem
75,103
Lancaster
59,360
Levittown
52,700
Harrisburg
49,279

Galeri o enwau llefydd Cymraeg a ChymreigGolygu

Gwynedd ValleyGolygu

Bala CynwydGolygu

Penllyn, PennsylvaniaGolygu

Bwrdeisdref Sirol Gogledd CymruGolygu

Narberth, PennsylvaniaGolygu

Berwyn, PennsylvaniaGolygu

Bryn MawrGolygu

Merion, PennsylvaniaGolygu

PhiladelphiaGolygu

Whitford, PennsylvaniaGolygu

HaverfordGolygu

GolygfeyddGolygu

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Geiriadur yr Academi, [Pennsylvania].
  2. American FactFinder, United States Census Bureau. "American Community Survey 3-Year Estimates". Factfinder.census.gov. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2010.

Dolenni allanolGolygu