Gwarchodfa natur Staglands

Mae Gwarchodfa Natur Staglands (Saesneg: Staglands Wildlife Reserve) yn barc cadwaeth yn nyffryn Akatarawa, Upper Hutt, Seland Newydd. Maint y safle yw 10 hectar.

Gwarchodfa Natur Staglands
Mathgwarchodfa natur Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Seland Newydd Seland Newydd

Sefydlwyd y warchodfa ym 1972 gan John Simister. Ei fwriad oedd rhoi mynediad hawdd a hwylus i bobl weld eu hanifeiliaid gwyllt mewn awyrgylch naturiol, saff er mwyn eu hysbrydoli i ofalu am eu hamgylchedd.[1] Mae llawer o'r adar yn cael eu magu er mwyn eu rhyddhau yn ôl i'r gwyllt. Ymhlith yr adar dan fygythiad sy'n cael eu magu yno mae:

  • Y Chwaden Las neu'r Whio (Hymenolaimus malacorhynchos)
  • Y Chwaden Ddu (Anas superciliosa)
  • Y Gorhwyaden Frown (Brown Teal; (Anas chlorotis)
  • Hebog y llwyni (Bush Falcon)
  • Kea (Nestor notabilis)
  • North Island Kaka (Nestor meridionalis)

Dolen allanol golygu

  1. www.staglands.co.nz; Archifwyd 2015-12-23 yn y Peiriant Wayback. adalwyd Rhagfyr 2015