Gwasanaethau ecosystemau
Mae'r ddynoliaeth yn manteisio ar lawer o adnoddau a phrosesau a ddaw o ecosystem. Gelwir y manteision a geir yn wasanaethau ecosystemau ac maent yn cynnwys cynnyrch megis dŵr glan i'w yfed, a phrosesau megis dadelfeniad gwastraff. Yn ôl Asesiad Ecosystemau'r Mileniwm y Cenhedloedd Unedig (2005), astudiaeth 4-mlynedd oedd yn cynnwys dros 1,300 o wyddonwyr o bob cwr o'r byd, gellid dosbarthu gwasanaethau ecosystemau yn bedwar categori: darparu, megis cynhyrchu bwyd a dŵr; rheoleiddio, megis rheoli'r hinsawdd ac afieichyd; cynnal, megis cylchredoedd maetholynnau a pheilliad cnydau; a diwylliannol, megis manteision ysbrydol a hamddenol.