Cawr oedd Gwedros Gawr (hefyd, Gwedraws neu Gwaedros[1]) a oedd, yn ôl chwedloniaeth, yn byw yng Nghaerwedros yng Ngheredigion. Mae Gwedros yn cael ei enwi yn llyfr yr hynafiaethydd o'r 17g Siôn Dafydd Rhys, sy'n cynnwys dros hanner cant o enwau cewri Cymru. Mae'r llyfr yn rhan o gasgliad Llawysgrifau Peniarth (Peniarth 118) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Lewis Morris, Celtic Remains, a gyhoeddwyd fel atodiad i Archaeologia Cambrensis (1878), 204.