Siôn Dafydd Rhys

meddyg a gramadegwr

Hynafiaethydd, ysgolhaig a meddyg o Gymro oedd Siôn Dafydd Rhys neu John Davies (1534 - tua 1619). Roedd yn nai i'r Esgob Richard Davies. Mae'n un o'r ysgolheigion mwyaf diddorol yng nghyfnod y Dadeni yng Nghymru. Er nad yw'n cael ei gyfrif fel ysgolhaig gorau'r cyfnod, ystyrir ei Gymraeg yn "gampus".[1] Fe'i cofir yn bennaf fel awdur y gyfrol Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Institutiones et Rudimenta.

Siôn Dafydd Rhys
Ganwydc. 1534 Edit this on Wikidata
Llanfaethlu Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1620 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethmeddyg, gramadegydd Edit this on Wikidata
Erthygl am yr ysgolhaig yw hon. Gweler hefyd John Davies.

Bywgraffiad golygu

Ganed Siôn Dafydd Rhys ym mhlwyf Llanfaethlu, Ynys Môn, ym 1534. Cafodd ei addysg brifysgol yn Eglwys Crist, Rhydychen ac ar y cyfandir lle enillodd gradd Meistr Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Siena yn yr Eidal ym 1567.

Ar ôl dychwelyd i Gymru fe'i apwyntiwyd yn brifathro Ysgol Friars, Bangor. Yn ddiweddarach gweithiodd fel meddyg yng Nghaerdydd a Brycheiniog, lle ymsefydlodd yn ardal Cwm Llwch.

Cynorthwyodd yn y gwaith o gyfieithu rhan o'r Beibl i'r Gymraeg, ond ar ôl cyfnod byr fel Protestant dychwelodd i ffydd yr Eglwys Gatholig.

Gwaith llenyddol golygu

Cyhoeddodd sawl llyfr yn cynnwys llyfrau gramadeg ac ieithyddol yn Lladin ac Eidaleg, a gyhoeddwyd yn yr Eidal. Ond ei lyfr pwysicaf a mwyaf dylanwadol oedd ei Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Institutiones et Rudimenta (1592), sy'n ymdrîn â gramadeg Cymraeg a rheolau Cerdd Dafod: arhosodd y gyfrol yn llawlyfr bwysig ar y pwnc olaf am gyfnod hir ac roedd Goronwy Owen ymhlith y rhai a fu'n ddyledus iddi am eu gwybodaeth o reolau'r canu caeth. Mae'n llyfr pwysig hefyd am iddo gyflwyno yn y Lladin, iaith ddeallusol ryngwladol y cyfnod, ran o gyfoeth y Traddodiad Barddol Cymraeg.

Un o'i ddiddordebau mawr oedd llên gwerin Cymru. Casglodd draddodiadau am gewri Cymru fel Idris Gawr a Rhita Gawr ar gyfer ei draethawd 'Olion Cewri'. Ysgrifennodd draethawd ar hanes cynnar Prydain hefyd, er mwyn ceisio amddiffyn ffug hanes Sieffre o Fynwy.

Llyfryddiaeth golygu

  • Siôn Dafydd Rhys, Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Institutiones et Rudimenta (1592). Ceir y rhagymadrodd yn Rhagymadroddion 1547-1659, gol. Garfield H. Hughes (Caerdydd, 1951).
  • Siôn Dafydd Rhys, 'Llythyr at y Beirdd', yn Rhyddiaith Gymraeg... 1488-1609, gol. T. H. Parry-Williams (Caerdydd, 1954)
  • Siôn Dafydd Rhys, 'Olion Cewri', yn Rhyddiaith Gymraeg... 1488-1609, gol. T. H. Parry-Williams (Caerdydd, 1954)

Cyfeiriadau golygu

  1. Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944).