Gwen Tomos
Nofel a gyhoeddwyd yn 1894 gan Daniel Owen yw Gwen Tomos. Mae'r nofel yn dilyn hanes Gwen, ei theulu a chymeriadau sy'n agos iddi, trwy lygaid Rheinallt, perthynas iddi, am y cyfan o'i hoes.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Er nad oes cyfeiriad yn y nofel at y cyfnod y lleolir hi ynddo y mae'n debyg mai yn hanner cyntaf y 19g y'i lleolir gan fod ynddi gyfeiriadau at "dransportio" lladron, at dwf ymneilltuaeth grefyddol ond nid oes, fel yn Rhys Lewis, son am reilffyrdd a'r chwyldro diwydiannol.
Mae'r nofel yn portreadu cymdeithas wledig gogledd-ddwyrain Cymru, gan ymdrin a'r gwrthdaro rhwng Methodistiaeth a'r Eglwys Anglicanaidd ac a'r berthynas rhwng y dosbarth landlordaidd a'r werin. Ceir ynddi aml i ddisgrifiad ffraeth o gymeriadau'r gymdeithas honno.
Hon yw'r nofel olaf gyhoeddodd Owen cyn ei farwolaeth yn 1895, er iddo gyhoeddi cyfrol o straeon byrion y flwyddyn honno hefyd.
Cyhoeddwyd fersiwn glastwreiddieg o'r nofel ar gyfer ysgolion sydd yn hepgor y rhannau o'r nofel sydd yn ymwneud â herwhela a phethau eraill a ystyrid yn anaddas i blant Cymru.