Daniel Owen

nofelydd

Awdur Cymreig oedd Daniel Owen (20 Hydref 183622 Hydref 1895).[1] Roedd yn un o lenorion mwyaf blaengar y 19g yn yr iaith Gymraeg a gofir fel un o arloeswyr mawr y nofel yn Gymraeg.

Daniel Owen
Ganwyd20 Hydref 1836 Edit this on Wikidata
Yr Wyddgrug Edit this on Wikidata
Bu farw22 Hydref 1895 Edit this on Wikidata
Yr Wyddgrug Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEnoc Huws, Rhys Lewis Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Owen yn yr Wyddgrug yn fab i'r glöwr Robert Owen. Bu farw ei dad a'i ddau frawd, James a Robert, ar 12 Mai 1838 mewn damwain pan fu llifogydd ym mhwll glo Argoed, gan adael Owen, ei fam, a thri o frodyr a chwiorydd eraill i ddibynnu ar elusen y plwyf am eu cynhaliaeth. Ni dderbyniodd lawer o addysg ffurfiol, ond cydnabu Owen ei ddyled i'r addysg a dderbyniodd yn yr Ysgol Sul.

Yn 12 oed, daeth Owen yn brentis i deiliwr, Angel Jones, a oedd yn un o flaenoriaid ac arweinwyr y Methodistiaid Calfinaidd yn yr Wyddgrug. Disgrifiodd Owen y brentisiaeth fel math o goleg, a dechreuodd ysgrifennu cerddi wedi iddo gael ei ddylanwadu gan un o'i gydweithwyr. Defnyddiodd Owen siop y teiliwr fel cyfle i drafod a dadlau gyda'i gyd-weithwyr a'r cwsmeriaid, thema sy'n amlwg yn ei nofelau. Ymhlith pynciau'r trafodaethau oedd materion gwleidyddol a diwinyddol; a darllenwyd ar lafar o destunau amrywiol mewn Cymraeg a Saesneg gan gynnwys nofelau'r awduron Saesneg George Eliot a Walter Scott. Roedd Owen ac aelodau eraill o'i gylch yn barddoni hefyd, ac ymysg gweithiau llenyddol cynharaf yr awdur y mae amryw o gerddi a ysgrifennwyd yn ystod ei gyfnod yn brentis i Angel Jones. Defnyddiodd y ffugenw 'Glaslwyn' wrth gyhoeddi cerddi yn y cylchgronau.

Bu Daniel Owen yn hyfforddi am gyfnod yng Ngholeg y Bala, (1865-1867), sef Coleg hyfforddi ei enwad ar y pryd. Ni chafodd ei ordeinio gan iddo ddewis gadael ei astudiaethau pan briododd ei frawd Dafydd, gan adael Owen i gynnal ei chwiorydd a'i fam. Roedd yn falch, fodd bynnag, o gael dychwelyd i'r Wyddgrug ac ailafael yn ei waith yn siop Angel Jones, lle bu'n gweithio fel teiliwr tan ddiwedd ei oes, yn gyntaf fel gweithiwr ond yn y man yn gyd-berchennog ei fusnes ei hun..

Er nad oedd bellach yn bwriadu bod yn weinidog, parhaodd Owen i bregethu tan iddo orfod rhoi'r gorau i deithio oherwydd ei iechyd bregus.[2] Roedd yn aelod yng nghapel Bethesda, o dan weinidogaeth y Parchedig Roger Edwards, a ysgogodd Owen i ddechrau ysgrifennu gan nad oedd bellach yn medru pregethu. Y canlyniad oedd Offrymau Neilltuaeth, gwaith rhyddiaith difrifol cyntaf yr awdur, gyda'r is-deitl 'Cymeriadau Beiblaidd a Methodistaidd' gyhoeddwyd yn 1879. Cynhwysai gyfres o storiau mewn 5 pennod am gymeriadau Methodistaidd a gellir ei ystyried yn nofel fer yn troi o gwmpas dewis blaenoriaid mewn capel. Perswadiodd Roger Edwards, a oedd ei hunan yn nofelydd, iddo ysgrifennu nofel i'w chyhoeddi fesul pennod yng nghyfnodolyn Y Drysorfa (sef cylchgrawn yr oedd Edwards yn ei olygu ar y pryd). Y Dreflan oedd y nofel honno, ac er nad yw'r nofel yn cael llawer o sylw heddiw yr oedd hi'n boblogaidd iawn yn ystod cyfnod Daniel Owen. Oherwydd poblogrwydd Y Dreflan perswadiwyd y nofelydd eto gan Edwards i ddechrau ail nofel yn syth. Rhys Lewis oedd y nofel honno, ac wedi ei chyhoeddi, sefydlwyd enw'r nofelydd fel ffigwr holl-bwysig yng Nghymru. Defnyddiodd elw'r cyhoeddi i godi ty newydd (Cae'r Ffynnon) ger man ei eni yn Maes y Dref, Yr Wyddgrug ar gyfer ei fam (fu farw cyn iddi gael symud yno).

Dilynwyd Rhys Lewis gan ddwy nofel eto, Enoc Huws a Gwen Tomos a chyfres o straeon byrion sef Straeon y Pentan.

Roedd yn ddeifiol ei wawd o'r tueddiadau a welai mewn Anghydffurfiaeth yng Nghymru i fod yn ymbarchuso yn ystod ei gyfnod ef.

Gwaddol golygu

Rhoddir Gwobr Goffa yn ei enw gan Yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer nofel heb ei chyhoeddi.

Rhwng 2002 a 2006, darlledodd S4C y gyfres Treflan, yn seiliedig ar lyfrau Daniel Owen, gan ddilyn hanesion Rhys Lewis ac Enoc Huws' yn bennaf.

Llyfrau golygu

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "DEATHOFMRDANIELIOWENI - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". James Rees. 1895-10-25. Cyrchwyd 2015-07-16.
  2. Gruffydd, R. Geraint (2019). James, E. Wyn (gol.). Y Gair a'r Ysbryd: Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth. Bangor: Gwasg Bryntirion. ISBN 978-1-85049-267-2.

Dolenni allanol golygu