Gwen ferch Ellis

y Gymraes hysbys gyntaf i gael eu chyhuddo o ddewiniaeth

Barddes[1] o Gymraes oedd Gwen ferch Elis (neu Gwen ferch Ellis). Fe'i ganwyd oddeutu 1542 yn Llandyrnog, Clwyd. Ei hachos oedd un o'r treialon cyntaf sydd wedi eu cofnodi o ddienyddiad oherwydd dewiniaeth yng Nghymru. Cafodd ei chyhuddo am ddewiniaeth yn 1594. Fe'i chafodd yn euog a'i chrogi cyn pen y flwyddyn.[2]

Gwen ferch Ellis
Ganwyd1550s Edit this on Wikidata
Llandyrnog Edit this on Wikidata
Bu farw1594 Edit this on Wikidata
Dinbych Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Roedd Gwen ferch Elis yn paratoi meddygyniaethau ar gyfer pobl ac anifeiliaid, ond daeth ei gyrfa i ben gyda darganyfddiad "swyn" o'i heiddo mewn tŷ bonedd.[1][3]

Priodasau golygu

Priododd Gwen deirgwaith. Bu farw ei gŵr cyntaf, Lewis ap David ap Gwyn, ar ôl dwy flynedd o briodas. Yn 1588 fe briododd melinwr o'r enw Lewis ap David ap Gruffith Gethin (Lewis Gethin). Symudodd y ddau i'w felin yn Llanelian-yn-Rhos. Ar ôl 18 mis o briodas, bu farw ei ail ŵr hefyd. Yn 1592, priododd Gwen John ap Morris o Betws yn Rhos a setlo yno. Mae tynged ei gŵr olaf yn ddiarwybod, er ni grybwyllwyd ef yn ystod ei hachos.

Yr achos a'i dienyddiad golygu

Ar ôl ei harchwiliad gan yr esgob, cafodd yr ynadon lleol y pŵer i holi llygad-dystion oedd yn barod i dystio yn erbyn Gwen. Tystiodd pum dyn a dwy ddynes â chyhuddiadau o ddewinyddiaeth yn ei herbyn. Fe'i chyhuddwyd o achosi gwallgofrwydd plentyn, ac o ladd dyn gwael a fu farw wedi iddo gael ei drin gan Gwen. Fe'i chyhuddwyd hefyd o gael natur dialgar. Cynhaliwyd yr achos ym 1594 ac fe gafwyd Gwen yn euog. Cafodd ei dienyddio drwy grogi yn sgwâr tref Dinbych cyn pen y flwyddyn.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Edwards, Alaw Mai (Gwanwyn 2020). "Barddesau'r Unfed Ganrif ar Bymtheg". Barddas: 25. https://mcusercontent.com/eb3b0c39a2b5ecd3316171625/files/ada6f6c6-780a-48cf-a3e0-c59ded66a276/Barddas_Gwanwyn_2020.pdf.
  2. "Gwen ferch Ellis". Church in Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-30. Cyrchwyd 28 Ionawr 2015.
  3. Lois, Efa (2019-10-31). "Gwen Ferch Ellis". Cyrchwyd 2020-04-25.
  4. Roberts, ed. by Michael; Clarke, Simone (2000). Women and gender in early modern Wales. Cardiff: University of Wales press. t. 75. ISBN 0708315801.CS1 maint: extra text: authors list (link)