Gwenno Penygelli

cân werin Cymraeg

Cân werin draddodiadol yw Gwenno Penygelli.

Y geiriau

golygu

Mae gennyf het Jim Cro
Yn barod i fy siwrne
A sgidie o groen llo
A gwisg o frethyn cartre.
Mae gennyf dŷ yn llawn
Yn barod i'w chroesawu
A phedair tas o fawn
A dillad ar fy ngwely.
Di wec...

Mae gennyf ddafad ddu
Yn pori ar Eryri,
Chwyaden, cath a chi,
A gwartheg lond y beudy.
Mi fedraf dasu a thoi
A chanu a dal arad,
A gweithio heb ymdroi
A thorri gwrych yn wastad.
Di wec...

Roedd yno bwdin pys
A hwnnw ar hanner ferwi,
Y cwc wedi torri'i bys
A cholli'r cadach llestri.
Cig y maharen du
Yn wydyn yn ei gymale,
Potes maip yn gry'
A chloben o baste fale.
Di wec...[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Meinir Wyn Edwards, 100 o Ganeuon Gwerin (Y Lolfa, 2012), t.49
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato