Gwesty'r Copthorne, Caerdydd

gwesty yng Nghymru

Gwesty pedwar seren (pum seren yn flaenorol) yw Gwesty'r Copthorne (Saesneg: Copthorne Hotel Cardiff-Caerdydd)yng Nghroes Cwrlwys, maestref ddwyreiniol o Gaerdydd, prifddinas Cymru.

Gwesty'r Copthorne
Mathgwesty Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1993 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1993 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4642°N 3.2717°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganMillennium Hotels and Resorts Edit this on Wikidata
Map

Gweithredir y gwesty gan gwmni Millennium & Copthorne. Mae wedi ei leoli ger trosglwyddydd Wenfo, oddi ar ffordd yr A4050 ger cylchfan Croes Cwrlwys (sy'n cysylltu'r A48 a'r A4232).

Mae gan y gwesty 135 ystafell wely a phwll nofio, ystafell ager, sawna, trobwll a champfa.[1] Fe'i hadeiladwyd yn 1993 ac mae llyn o flaen y gwesty - yn wreiddiol adeiladwyd twmpath o'i flaen i guddio'r llyn o olwg y ffordd.

Y gwesty oedd un o'r datblygiadau cyntaf ar safle Croes Cwrlwys yn ystod ffyniant y safle drwy'r 1990au. Erbyn heddiw mae'r gwesty wedi ei amgylchynu gan nifer o siopau manwerthu.

Roedd y gwesty yn y newyddion yn y 2000au cynnar ar ôl i ddau westai farw o glefyd y llengfilwyr, a achoswyd gan leithydd wedi ei osod yn anghywir. Dirwyd y gwesty £40,000 ar ben costau o £15,000.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Four Star Luxury In A Peaceful, Central Location". Millennium & Copthorne Hotels. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-14. Cyrchwyd 2010-01-29.
  2. "Legionnaires' deaths hotel fined". BBC News. 9 November 2005. Cyrchwyd 2015-06-30.

Dolenni allanol golygu