Croes Cwrlwys
Un o faesdrefi dinas Caerdydd, Cymru, yw Croes Cwrlwys (Saesneg: Culverhouse Cross). Saif i'r gorllewin o ganol y ddinas, ger cyffordd y priffyrdd A48, A4232 ac A4050, ac ar y ffin rhwng Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae yn nghymuned Gwenfô. Yma mae pencadlys ITV Wales, a cheir nifer o barciau masnach yma.
Math | maestref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.46566°N 3.27036°W |
Tarddiad yr enw
golyguYr enw Saesneg Culverhouse Cross a ddaeth yn gyntaf. Ystyr culverhouse yw colomendy, o'r Hen Saesneg culfre (sef colomen) a house. Enw fferm oedd hwn, a cheir cofnodion o'r enw Culverhouse (1533, 1654–55), Culver House (1636, 1761) a Culferhouse (1813–14). Roedd croesffordd yn ymylu ar dir y fferm hon, lle croesai'r ffordd o Sain Ffagan i Wenfô y briffordd o Gaerdydd i'r Bont-faen. Enw'r fan hon oedd The Crossway ar ddiwedd yr 17g, a cheir cofnod o'r enw Cymraeg Croesheol ym 1762. Erbyn 1885 cyfunodd y ddwy elfen gan roi'r enw Culverhouse Cross. Ar lafar, cafodd yr enw Culverhouse ei Gymreigio'n "cwrlwys". Ceir cyfeiriad at Bedair Erw'r Cwrlwys a Dwy Erw'r Cwrlwys mewn les o 1786 ac at y fferm Cwrlwys mewn dogfen arall o 1776. Yn ôl Gwynedd O. Pierce bu trawsosodiad cytseiniaid i ddechrau gan droi -l-r yn -r-l, a cholli sillaf yr un pryd, i roi'r ffurf dalfyredig cwrl-. Aeth house yn -(h)ws ac yna'n -wys. Gwelir y ffurf Curlass ar fap Emanuel Bowen o Dde Cymru ym 1729, sy'n adlewyrchu ynganiad Cymraeg llafar yr enw.[1]
Erbyn heddiw mae'r groesffordd wedi datblygu'n gymhlethdod o ffyrdd sy'n arwain i bob cyfeiriad, a cheir strydoedd o dai yn lle'r hen fferm, rhyw ychydig i'r de o Ysgol Uwchradd Glan Elái.[1]
Cyfeiriadau
golygu- Adamsdown
- Caerau
- Castell
- Cathays
- Cyncoed
- Y Ddraenen
- Yr Eglwys Newydd
- Gabalfa
- Glan'rafon
- Grangetown
- Hen Laneirwg
- Llandaf
- Llanedern
- Llanisien
- Llanrhymni
- Llys-faen
- Y Mynydd Bychan
- Pen-twyn
- Pen-tyrch
- Pen-y-lan
- Pontcanna
- Pontprennau
- Radur a Threforgan
- Y Rhath
- Rhiwbeina
- Sain Ffagan
- Y Sblot
- Tongwynlais
- Tre-biwt
- Tredelerch
- Treganna
- Trelái
- Tremorfa
- Trowbridge
- Y Tyllgoed
- Ystum Taf