Gweyllen
Teclyn sy'n cael ei ddefnyddio wrth weu i gynhyrchu deunydd yw gweyllen (lluosog: gwëyll neu gweill), gweillen neu gwiallen. Mae fel arfer ganddyn nhw baladr hir sy'n meinhau ar y pen, ond nid ydynt yn agos at fod mor finiog â nodwyddau nodwyddau gwnïo. Mae dau bwrpas iddynt. Mae'r paladr hir yn dal y pwythau sy'n cael eu gweu i'w hatal rhag datod, ac mae'r pen main yn cael ei ddefnyddio i ffurfio pwythau newydd. Mae pwyth newydd fel arfer yn cael ei greu trwy roi'r pen main trwy bwyth arall, gan ddal dolen o edau a'i dynnu trwy'r pwyth; mae hyn yn dal y pwyth gwreiddio yn ei le ac yn ffurfio pwyth newydd yn ei le.
Mae maint gweyllen yn cael ei ddisgrifio yn ôl ei ddiamedr yn gyntaf, ac yna ei hyd. Mae maint y pwyth newydd yn cael ei bennu i raddau helaeth gan ddiamedr y gweill a ddefnyddir i'w ffurfio, gan fod hyn yn effeithio ar hyd y ddolen edau sy'n cael ei thynnu trwy'r pwyth blaenorol. Mae hyd y gweyllen yn penni nifer y pwythau sy'n gallu cael eu dal ar yr un pryd.
Defnyddir y term 'ar y gweill' i ddisgrifio tasg sydd wedi'i dechrau, ond heb ei chwblhau.