Offeryn main a hir gyda phwynt yw nodwydd wnïo. Gwnaed y nodwyddau cynharaf allan o bren neu asgwrn; ar gyfer nodwyddau cyfoes defnyddir gwifren ddur gyda lefel uchel o garbon, wedi ei orchuddio gyda nicel neu aur iw hatal rhag rhydu. Cynhyrchir y safon uchaf o nodwyddau ar gyfer brodwaith allan o blatinwm. Yn draddodiadol, cedwir nodwyddau mewn llyfryn neu gas nodwyddau, sydd wedi dod yn eitemau addurnol.

Nodwyddau gwnïo

Mae gan nodwyddau as gyfer gwnïo â llaw dwll ar y pen (a elwir yn "grai") sydd heb bwynt er mwyn cludo'r edau trwy'r defnydd wedi i'r pwynt wthio twll trwy'r defnydd. Mae gan nodwyddau enwau a siapiau gwahanol yn dibynnu ar eu pwrpas. Caiff maint nodwyddau eu dynodi gan rif o 1 i 10, gyda nodwydd maint 1 yn dewach ac yn hirach, a nodwydd maint 10 yn fyrach ac yn fwy main ar gyfer gwaith manwl.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am gelf a chrefft. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.