Gwgon ap Meurig
brenin olaf teyrnas Ceredigion
Gwgon ap Meurig oedd brenin olaf Teyrnas Ceredigion. Ychydig iawn o wybodaeth bendant sydd ar gael amdano.
Gwgon ap Meurig | |
---|---|
Ganwyd |
808 ![]() Teyrnas Ceredigion ![]() |
Bu farw |
872 ![]() Achos: The Drowning Pool ![]() Penrhyn Gŵyr ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
brenin neu frenhines ![]() |
Swydd |
Seisyllwg ![]() |
Cysylltir gyda |
Gwgon Gleddyfrudd ![]() |
Tad |
Meurig ap Dyfnwal ![]() |
Cyfeirir ato fel Guocaun map Mouric yn y ddogfen Hen Gymraeg a adnabyddir fel Achresau Harley (adran XXVI). Credir y cafodd y ddogfen honno ei llunio yn nheyrnas Deheubarth.
Priododd ei chwaer Angharad y brenin Rhodri Mawr o Wynedd.
Yn ôl yr Annales Cambriae, bu farw Gwgon drwy foddi yn 871.[1]
Mae'n bosibl fod yr arwr traddodiadol Gwgon Gleddyfrudd i'w uniaethu â Gwgon ap Meurig, ond ymddengys yn fwy tebygol ei fod yn hynafiad iddo (os cymeriad hanesyddol ydyw mewn gwirionedd).
CyfeiriadauGolygu
- ↑ (Saesneg) Gwgon ap Meurig. Family Search. Adalwyd ar 4 Mai 2012.