Gwilym Ellis Lane Owen
Athronydd o Gymru oedd Gwilym Ellis Lane Owen (18 Mai 1922 - 10 Gorffennaf 1982) a arbenigodd mewn hanes athroniaeth y Groegiaid. Cyfeirir ato gan amlaf fel Gwil Owen neu G. E. L. Owen.
Gwilym Ellis Lane Owen | |
---|---|
Ganwyd | 18 Mai 1922 Portsmouth |
Bu farw | 10 Gorffennaf 1982 Caergrawnt |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, academydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd yr Academi Brydeinig |
Bu'n athro prifysgol yn Harvard a Rhydychen. O 1973 hyd ei farw, ef oedd y pedwerydd i ddal cadair Athro mewn Athroniaeth Hynafol Laurence ym Mhrifysgol Caergrawnt. Cafodd ei ethol yn Gymrawd o'r Academi Brydeinig (FRA) yn 1969.[1]
Mae Gwil Owen yn adnabyddus am ei waith ar ddatblygiad athroniaeth Aristotlys a syniadaeth Platon, a gafodd ddylanwad mawr ar yr astudiaeth o athroniaeth yr Henfyd ar draws y byd. Rhoddai blwyslais mawr ar ddull (method) ac ymresymiad (argument) yn lle damcaniaeth ac athrawiaeth.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Academi Brydeinig
- ↑ Ted Honderich (gol.), The Oxford Companion to Philosophy (Rhydychen, 1995), tud. 638.
Llyfryddiaeth
golygu- G. E. L. Owen, Logic, Science and Dialectic (Llundain, 1986).