Gwleidyddiaeth yr Ariannin

Mae cyfansoddiad yr Ariannin, (sy'n dyddio o 1853 ac sydd wedi'i ddiwygio yn 1994), yn gwahanu grymoedd y canghennau gweithredol, deddfwriaethol a barwnol ar lefel genedlaethol a thaleithiol. Ni all yr arlywydd na'r is-arlywydd gael eu hethol am fwy na dau dymor o bedair blynedd yn olynol. Gellir sefyll am drydydd tymor neu fwy ar ôl egwyl o un tymor neu ragor. Mae'r arlywydd yn penodi gwenidogion y llywodraeth; mae'r cyfansoddiad yn rhoi llawer o rym iddo fel pennaeth y wladwriaeth a phennaeth y llywodraeth, gan gynnwys yr awdurdod i wneud cyfreithiau drwy ddyfarniad arlywyddol pan fo'r amodau'n "pwysig ac yn angenrheidiol".

Julio Argentino Roca, a wasanaethodd am ddau dymor fel Arlywydd

Senedd yr Ariannin yw'r Gyngres Genedlaethol dwy siambr, neu'r Congreso Naciónal, sy'n cynnwys y senedd (y Senado) o 72 o seddi a Siambr Dirpwyon (y Cámara de Diputados) o 257 o aelodau. Ers 2001 mae pob talaith, gan gynnwys y Brifddinas Ffederal, yn ethol 3 seneddwr. Mae'r Seneddwyr yn cael eu hethol am dymor o 6 blynedd, gydag etholiadau am draean o'r Senedd pob dwy flynedd. Mae aelodau Siambr y Dirpwyon yn cael eu hethol am 4 blynedd, a hanner y Siambr yn cael ei hethol bob dwy flynedd.

Arlywydd presennol yr Ariannin yw Cristina Fernández de Kirchner, a etholwyd i'r swydd yn niwedd 2007. Y pleidiau gwleidyddol mwyaf yw'r Alianza Frente para la Victoria (FV), Partido Justicialista (PJ), Afirmación para una República Igualitaria a'r Unión Cívica Radical.

Gweler hefyd

golygu