Yr Ariannin
Mae Gweriniaeth yr Ariannin (Sbaeneg: República Argentina ynganiad ) neu'r Ariannin yn wlad yn ne-ddwyrain De America. Mae'n gorwedd rhwng mynyddoedd yr Andes a rhan ddeheuol y Môr Iwerydd. Mae'n ffinio â Wrwgwái, Brasil, Paragwâi, Bolifia a Tsile. Sbaeneg yw'r iaith swyddogol. Mae'r enwau Sbaeneg a Chymraeg yn dod o'r Lladin argentum ‘arian’, metel gwerthfawr a anogodd yr ymgartrefu cynnar Ewropeaidd. Gelwir person a anwyd yn yr Ariannin yn Archentwr.
![]() | |
Arwyddair | Beats to your rhythm ![]() |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad ![]() |
![]() | |
Prifddinas | Buenos Aires ![]() |
Poblogaeth | 44,938,712 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | Argentine National Anthem ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Alberto Fernández ![]() |
Cylchfa amser | UTC−03:00 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | America Ladin, Y gwedydd ABC, De America, De De America, America Sbaenig ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 2,780,400 ±1 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Bolifia, Brasil, Tsile, Paragwâi, Wrwgwái ![]() |
Cyfesurynnau | 34°S 64°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Argentina ![]() |
Corff deddfwriaethol | Argentine National Congress ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | President of Argentina ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Alberto Fernández ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | President of Argentina ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Alberto Fernández ![]() |
![]() | |
Arian | ars ![]() |
Canran y diwaith | 8.9 ±0.1 % ![]() |
Cyfartaledd plant | 2.322 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.825 ![]() |
HanesGolygu
Prif Erthygl: Hanes yr Ariannin
Ceir olion y trigolion cyntaf yn y tiroedd sy'n awr yn ffurfio yr Ariannin yn rhan ddeheuol Patagonia tua 13,000 o flynyddoedd yn ôl. Daeth gogledd-orllewin o wlad yn rhan o ymerodraeth yr Inca yn ail hanner y 15g, a ceir y cofnodion cynharaf yn ffurf quipu yn y cyfnod hwnnw.
Dechreuodd hanes ysgrifenedig y wlad gyda dyfodiad yr Ewropeaid i'r rhanbarth yn gynnar yn yr 16g. Y cyntaf i gyrraedd yno oedd y Sbaenwr Juan Díaz de Solís a'i ŵyr yn 1516.
Yn 1776 sefydlodd y Sbaenwyr y Virreinato del Río de la Plata o nifer o diriogaethau blaenorol. Wedi Gwrthryfel Mis Mai yn 1810, sefydlwyd nifer o wladwriaethau annibynnol, yn cynnwys un yn dwyn yr enw Provincias Unidas del Río de la Plata. Cyhoeddwyd annibyniaeth ar 9 Gorffennaf 1816, a gorchfygwyd y Sbaenwyr mewn brwydr yn 1824. Sefydlwyd Gweriniaeth yr Ariannin rhwng 1853 a 1861,
Roedd adegau o groestyniad gwleidyddol rhwng y ceidwadwyr a'r rhyddfrydwyr, ac rhwng ymbleidiau sifil a milwrol. ar ôl yr Ail Rhyfel y Byd gwelwyd dyrchafiad y mudiad poblogol Peronistaidd. Roedd juntas gwaedlyd bob yn ail efo llywodraethau democratig tan 1983, yn dilyn problemau economaidd mawr, a'r trechiad yn Rhyfel y Falklands.
Ers dymchwel y junta milwrol ym 1983, mae pedwar etholiad rhydd wedi cadarhau lle'r Ariannin fel gweriniaeth ddemocrataidd, er gwaethaf gwaethygiad economaidd difrifol yn 2001 a dechrau 2002.
GwleidyddiaethGolygu
Prif Erthygl: Gwleidyddiaeth yr Ariannin
Mae cyfansoddiad yr Ariannin, sydd yn dyddio o 1853 (wedi'i ddiwygio yn 1994), yn gwahanu nerthoedd y canghennau gweithredol, deddfwriaethol a barnwrol ar y lefelau cenedlaethol a thaleithiol. Ni all yr arlywydd na'r is-arlywydd gael eu hethol am fwy na dau dymor o bedair blynedd yn olynol. Gellir sefyll am drydydd tymor neu fwy ar ôl egwyl o un tymor neu fwy. Mae'r arlywydd yn penodi gwenidogion y llywodraeth ac mae'r cyfansoddiad yn rhoi llawer o rym iddo fe fel pennaeth y wladwriaeth a phennaeth y llywodraeth, yn cynnwys yr awdurdod i wneud cyfreithiau trwy ddyfarniad arlywyddol pan fo amodau "pwysig ac anghenrheidiol".
Senedd yr Ariannin yw'r Gyngres Genedlaethol dwy siambr, neu'r Congreso Naciónal, sy'n cynnwys y senedd (y Senado) o 72 o seddi a Siambr Dirpwyon (y Cámara de Diputados) o 257 o aelodau. Ers 2001 mae pob talaith, gan gynnwys y Brifddinas Ffederal, yn ethol 3 seneddwr. Mae'r Seneddwyr yn cael eu ethol am dymor o 6 blynedd, gydag etholiadau am draean o'r Senedd pob dwy flynedd. Mae aelodau Siambr y Dirpwyon yn cael eu hethol am 4 blynedd, a hanner y Siambr yn cael ei ethol bob dwy flynedd.
TaleithiauGolygu
Prif Erthygl: Taleithiau'r Ariannin
Mae gan yr Ariannin 23 talaith (provincias, unigol provincia), ac un rhanbarth ffederal (distrito federal; a nodir gyda *)
- Buenos Aires *
- Talaith Buenos Aires
- Catamarca
- Chaco
- Chubut (yn cynnwys yr Wladfa)
- Córdoba
- Corrientes
- Entre Rios
- Formosa
- Jujuy
- La Pampa
- La Rioja
- Mendoza
- Misiones
- Neuquén
- Río Negro
- Salta
- San Juan
- San Luis
- Santa Cruz
- Santa Fe
- Santiago del Estero
- Tierra del Fuego, Antarctica ac Ynysoedd y De Iwerydd
- Tucumán
DaearyddiaethGolygu
Prif Erthygl: Daearyddiaeth yr Ariannin
Gellir rhannu'r Ariannin yn dri darn: gwastadedd ffrwythlon y Pampas dros hanner gogleddol y wlad, calon cyfoeth amaethyddol yr Ariannin; y llwyfandir Patagonia yn hanner de'r wlad ac yn ymestyn i lawr i ynys Tierra del Fuego; a mynyddoedd yr Andes yn y gorllewin.
Mae mynyddoedd uchaf yr Andes ar y ffin ogleddol rhwng Tsile ac Ariannin, Y mynydd uchaf yw Aconcagua, sydd 6,959 m uwchlaw lefel y môr – y mynydd uchaf ar gyfandir America a'r mynydd uchaf yn y byd tu allan i Asia.
Mynyddoedd uchaf yr Ariannin yw:
- Aconcagua (6,962);
- Monte Pissis (6,882);
- Ojos del Salado (llosgfynydd; 6,864);
- Mercedario (6,770);
- Bonete Chico (6,759).
Mae'r prif afonydd yn cynnwys y Paragwâi, Bermejo, Colorado, Wrwgwái a'r hwyaf, y Paraná. Mae'r ddwy olaf yn ymuno â'i gilydd cyn cyrraedd y Môr Iwerydd, i ffurfio aber y Río de la Plata (Afon Plât). Mae hinsawdd yr Ariannin yn dymherus gan fwyaf, ond gyda hinsawdd isdrofannol yn y gogledd a sych/is-Antarctig yn y de pell.
EconomiGolygu
Prif Erthygl: Economi'r Ariannin
Mae gan yr Ariannin adnoddau naturiol gwerthfawr, poblogaeth wybodus iawn, amaeth da, a sylfaen ddiwydiannol amrywiol. Fodd bynnag, yn y 1980au hwyr bu dyledion rhyngwladol yr Ariannin yn codi'n enfawr, a graddfa chwyddiant wedi cyrraedd 200% y mis, a cynnyrch economaidd yn syrthio. I wella'r argyfwng economaidd, dechreuodd y llywodraeth ar ffordd i rhyddfrydoli masnach, di-rheoli, a preifateiddio. Yn 1991 daeth y peso eu sefydlu i'r Doler Americanaidd.
Roedd y diwygiadau yn llwyddiannus yn y dechrau, ond roedd argyfyngau economaidd hwyrach yn Mecsico, Asia, Rwsia a Brasil yn gwaethygu pethau o 1999 i flaen. Yn 2001 dymchwelodd y system bancio, ac roedd y peso yn nofio yn erbyn y doler ers Chwefror 2002. Ers hynny mae'r sefyllfa economaidd wedi gwella'n sylweddol.
DemograffaethGolygu
Prif Erthygl: Demograffaeth yr Ariannin
Mae pobl yr Ariannin yn dod o lawer o grwpiau cenedlaethol ac ethnig, gyda disgynyddion pobl o'r Eidal a Sbaen yn y mwyafrif. Mae tua 500,000 o bobl o'r Canol Ddwyrain (Syria, Libanus, a gwledydd eraill) yn byw yn y dinasoedd. Y Sbaeneg yw'r unig iaith swyddogol.
DiwylliantGolygu
LlenyddiaethGolygu
Daeth llenyddiaeth yr Ariannin i sylw rhyngwladol yn rhan olaf y 19g gyda chyhoeddi'r llyfr Martín Fierro gan José Hernández. Cyfieithwyd y llyfr yma i dros 70 iaith. Ymhlith prif lenorion yr 20g mae Jorge Luis Borges, Julio Cortázar a Juan Gelman, ill tri ymhlith awduron Sbaeneg pwysicaf yr 20g.
Cyhoeddwyd cryn dipyn o lenyddiaeth Gymraeg gan drigolion y Wladfa hefyd. Yr enwocaf o lenorion y Wladfa yw Eluned Morgan ac R. Bryn Williams.
Cerddoriaeth a dawnsGolygu
Daeth y tango yn enwog fel dull o ddawnsio ac arddull cerddorol, gyda Buenos Aires fel canolbwynt. Gelwir Carlos Gardel yn "Frenin y Tango".
ChwaraeonGolygu
Pêl-droed yw'r mwyaf poblogaidd o'r chwaraeon yn yr Ariannin. Enillodd y tîm cenedlaethol Gwpan Pêl-droed y Byd yn 1978 a 1986. Y mwyaf adnabyddus o bêl-droedwyr y wlad yw Diego Armando Maradona.
Mae bocsio hefyd yn boblogaidd, ac mae mwy na 30 o Archentwyr wedi dal pencampwriaeth y byd. Enillodd yr Ariannin bencampwriaeth pêl-fasged y byd yn 1950. Cafwyd cryn lwyddiant mewn tenis hefyd, gyda Guillermo Vilas a Gabriela Sabatini yn nodedig. Daeth Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Ariannin yn drydydd yng Nghwpan y Byd yn 2007. Enw adnabyddus arall ym maes chwaraeon yw'r gyrrwr Fformiwla Un Juan Manuel Fangio, a enillodd bencampwriaeth y byd bum gwaith yn y 1950au.
Cysylltiadau allanolGolygu
- (Sbaeneg) Gwefan swyddogol y llywodraeth
- (Sbaeneg) Gwefan swyddogol yr Arlywydd Archifwyd 2010-11-13 yn y Peiriant Wayback.
- (Sbaeneg) Gwefan swyddogol y Senedd
- (Sbaeneg) Gwefan swyddogol y Tý Isaf
- (Sbaeneg) Álbum de Estampillas
Taleithiau'r Ariannin | |
---|---|
Dinas Ffederal | Buenos Aires | Catamarca | Chaco | Chubut | Córdoba | Corrientes | Entre Ríos | Formosa | Jujuy | La Pampa | La Rioja | Mendoza | Misiones | Neuquén | Río Negro | Salta | San Juan | San Luis | Santa Cruz | Santa Fe | Santiago del Estero | Tierra del Fuego, Antarctica ac Ynysoedd De'r Iwerydd | Tucumán |