Gwn Chekhov
Egwyddor ddramatig yw gwn Chekhov sy'n datgan bod rhaid i bob elfen mewn stori fod yn hanfodol, ac y dylid cael gwared ag unrhyw elfennau amherthnasol sydd fel petaent yn gwneud "addewidion gwag". Mae'r datganiad wedi'i gofnodi mewn nifer o lythyrau a ysgrifennwyd gan Anton Chekhov, gyda pheth amrywiaeth:[1][2][3]
- "Gwaredwch bopeth nad yw'n berthnasol i'r stori. Os dwedwch chi yn y bennod gyntaf bod reiffl wedi'i osod ar y wal, mae'n rhaid iddo gael ei danio yn yr ail neu drydedd bennod. Os nad yw'n mynd i gael ei danio, ni ddylai fod wedi'i osod yno."[4]
- "Ni ddylid fyth osod reiffl sydd wedi'i lwytho ar y llwyfan oni bai ei fod am gael ei danio. Mae'n ddrwg i wneud addewidion na fedrwch eu cadw." Chekhov, llythyr at Aleksandr Semenovich Lazarev (ffugenw A. S. Gruzinsky), 1 Tachwedd 1889.[5][6][7] Y "gwn" yn fan hyn yw'r monolog roedd Chekhov yn ei ystyried yn ddiangen ac amherthnasol i weddill y ddrama.
- "Os ydych chi wedi gosod gwn ar y wal yn yr act gyntaf, yna dylid ei danio yn y nesaf. Peidiwch a'i roi yno fel arall." O Gurlyand's Reminiscences of A. P. Chekhov, yn Teatr i iskusstvo 1904, Rhif. 28, 11 Gorffennaf, t. 521.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Petr Mikhaĭlovich Bit︠s︡illi (1983), Chekhov's art, a stylistic analysis, Ardis, p. x
- ↑ Daniel S. Burt (2008), The Literature 100: A Ranking of the Most Influential Novelists, Playwrights, and Poets of All Time, Infobase Publishing
- ↑ Valentine T. Bill (1987), Chekhov: The Silent Voice of Freedom, Philosophical Library
- ↑ С.Н. Щукин [Sergius Shchukin] (1911). "Из воспоминаний об А.П. Чехове". Русская Мысль [Russian Thought]: 44.
- ↑ "Quotations by Berlin". ox.ac.uk.
- ↑ Чехов А. П. (1 November 1889), "Чехов — Лазареву (Грузинскому) А. С.", Чехов А. П. Полное собрание сочинений и писем (АН СССР. Ин-т мировой лит.), http://chehov.niv.ru/chehov/letters/1888-1889/letter-707.htm
- ↑ Leah Goldberg (1976), Russian Literature in the Nineteenth Century: Essays, Magnes Press, Hebrew University, p. 163
- ↑ Yn 1889, nododd Ilia Gurliand y canlynol o sgwrs a gafodd gyda Chekhov: "Os yn Act 1 y mae gennych chi bistol wedi osod ar y wal, yna rhaid iddo danio yn yr act olaf." Donald Rayfield, Anton Chekhov: A Life, New York: Henry Holt and Company, 1997, ISBN 0-8050-5747-1, 203. Ernest. J. Simmons says that Chekhov repeated the point later (which may account for the variations). Ernest J. Simmons, Chekhov: A Biography, Chicago: University of Chicago Press, 1962, ISBN 0-226-75805-2, 190.