Gwrthryfel gan gaethweision yn erbyn Califfiaeth yr Abasiaid yn ne Mesopotamia oedd Gwrthryfel Zanj (869–883).

Map o Wrthryfel Zanj.

Dygwyd miloedd ar filoedd o gaethweision croenddu o Ddwyrain Affrica, a elwir Zanj gan ddaearyddwyr Mwslimaidd, i ddraenio'r corsydd hallt i ddwyrain Basra ac i weithio'r tir. Gorfodwyd gwaith caled ar y caethweision mewn amodau byw gwael, a chawsant eu trin yn greulon gan y tirfeddianwyr. Methodd gwrthryfeloedd gan y caethweision yn 689 ac yn 694.[1]

Cychwynnodd y gwrthryfel dan arweiniad Ali ibn Muhammad, dyn Arabaidd neu o bosib Persiaidd a hawliodd ei fod yn disgyn o'r Califf Ali a Fatimah, merch y Proffwyd Muhammad. Ym Medi 869 enillodd Ali gefnogaeth sawl criw o gaethweision drwy bledio'u hachos ac addo rhyddid a chyfoeth iddynt. Denodd Ali ragor o ddilynwyr wedi iddo ddatgan athrawiaeth y Khawarij, sydd yn caniatau i unrhyw Fwslim, hyd yn oed caethwas croenddu, gael ei ethol yn galiff. Bu'r brwydro felly yn rhyfel sanctaidd dros achos y Khawarij yn ogystal â gwrthryfel i ryddhau'r caethweision.[2]

Tyfodd lluoedd y Zanj yn gyflym, gan gynnwys minteioedd croenddu o fyddinoedd y califf a gwerinwyr Mwslimaidd lleol. Gorchfygasant eu gormeswyr ger Basra yn Hydref 869, ac ymhen dro codwyd prifddinas gan y Zanj o'r enw al-Mukhtarah mewn man sych yn y gwastadoedd hallt, yn hawdd ei amddiffyn a chyda camlesi o'i hamgylch. Enillodd y Zanj reolaeth dros holl ddeheubarth Mesopotamia wedi iddynt gipio porthladd al-Ubullah ym Mehefin 870 a thorri'r llinellau cyswllt â Basra. Cipiwyd Ahvaz i'r dwyrain, ac ym Medi 871 cafodd Basra ei hanrheithio gan y Zanj.

Yn Ebrill 872, llwyddodd y gwrthryfelwyr i yrru byddinoedd y Cadfridog al-Muwaffaq, brawd y Califf al-Mu'tamid, ar ffo. Hyd at 879 bu al-Muwaffaq yn brwydro'n erbyn y Saffariaid yn nwyrain Iran, a llwyddodd y Zanj i gipio Wasit yn 877 ac ymsefydlu yn Khuzestan, yng ngorllewin Iran. Yn 879, cychwynnodd al-Muwaffaq ar ymgyrch enfawr yn erbyn y Zanj, ac erbyn 881 fe lwyddodd i gipio al-Mani'ah, gyrru'r gwrthryfelwyr ymaith o Khuzestan, a gwarchae ar al-Mukhtarah. Daeth y gwrthryfel i ben yn Awst 883 yn sgil cwymp al-Mukhtarah i luoedd al-Muwaffaq gyda milwyr ychwanegol o'r Aifft. Dychwelodd al-Muwaffaq i Baghdad gyda phen Ali.

O ganlyniad i'r gwrthryfel, cyfyngwyd ar y fasnach gaethweision Zanj a chynyddodd hiliaeth yn erbyn pobl groenddu yn y byd Islamaidd.[1]

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 Alexander Mikaberidze, "Zanj Slave Revolts" yn Conflict and Conquest in the Islamic World: A Historical Encyclopedia, golygwyd gan Alexander Mikaberidze (Santa Barbara, Califfornia: ABC-CLIO, 2011), tt. 969–70.
  2. (Saesneg) Zanj rebellion. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Gorffennaf 2020.