Arabiaid
Mae'r Arabiaid yn bobl Semitaidd a breswyliai orynys Arabia yn wreiddiol. Gellir eu rhannu'n fras yn ddau grŵp diwylliannol, sef y llwythi Bedouin nomadaidd a'r cymunedau dinesig ac amaethyddol.
![]() | |
Enghraifft o: | grŵp ethnig ![]() |
---|---|
Math | Semitiaid, peoples of the Quran ![]() |
Y gwrthwyneb | Ajam ![]() |
Poblogaeth | 440,000,000 ±10000000 ![]() |
Crefydd | Islam, cristnogaeth ![]() |
Gwlad | Arabia ![]() |
Rhan o | Semitiaid ![]() |
Iaith | Arabeg ![]() |
Enw brodorol | عرب ![]() |
Gwladwriaeth | Sawdi Arabia, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Iemen, Catar, Bahrain, Coweit, Oman, Syria, Gwlad Iorddonen, Irac ![]() |
![]() |
Roedd yr Arabiaid yn adanbyddus i'r Groegiaid, y Rhufeiniaid a'r Iddewon yn yr Henfyd. Cyfeirir atynt gan hanesyddion clasurol ac fe'i henwir yn yr Hen Destament yn y Beibl.
Yn y 7g, wedi'u hysbarduno a'u hysbrydoli gan neges y Proffwyd Mohamed a dan bwysau economaidd a chymdeithasol yn ogystal, ymledodd yr Arabiaid dros ran sylweddol o'r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica. Wrth wneud hynny cludiasant efo nhw cred Islam a'r iaith Arabeg mor bell â'r Maghreb ac Andalucía yn y gorllewin ac Indonesia yn y dwyrain.
Er bod y gair "Arabiaid" yn golygu trigolion Arabia a'u disgynyddion uniongyrchol yn wreiddiol, heddiw mae'n cael ei ddefnyddio i gyfeirio at drigolion iaith Arabeg de-orllewin Asia, yr Aifft, Gogledd Affrica a rhannau o'r Affrica is-Saharaidd, yn ogystal â phobl Arabaidd sy'n byw tramor.