Gwyliau (albwm)
Albwm gan Dewi Williams yw Gwyliau. Rhyddhawyd yr albwm ym Mehefin 2012 ar y label Final Vinyl.
Gwyliau | ||
---|---|---|
Albwm stiwdio gan Dewi Williams | ||
Rhyddhawyd | Mehefin 2012 | |
Label | Final Vinyl |
Mae Gwyliau yn albwm cysyniadol gan berfformiwr o Glynnog Fawr sydd wedi bod mewn amryw grwpiau dros y blynyddoedd yn cynnwys Baswca, Y Crwyn, Defaid a Sgwarnogs. Mae Gwyliau’n mynd â ni ar siwrnai gerddorol anhygoel trwy gyfrwng synau reggae, ska, roc a dawns.
Dewiswyd Gwyliau yn un o ddeg albwm gorau 2012 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]
Canmoliaeth
golyguMae’n gywilydd nad yw hon wedi cael mwy o sylw yn y cyfryngau, a’r clod mae’n haeddu... fy hoff albwm i o 2012 heb os nac oni bai
—Owain Schiavone, Y Selar