Gwyn ab Ednywain (fl. 1170 - 1215) oedd distain Teyrnas Gwynedd ar ddechrau'r 13eg. Prin yw'r dystiolaeth amdano. Roedd yn uchelwr o Eifionydd. Enw ei ferch oedd Generys.

Gwyn ab Ednywain
GanwydEifionydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
GalwedigaethDistain Edit this on Wikidata
Blodeuodd12 g Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Cysylltir gydaGruffudd ap Cynan ab Owain, Llywelyn Fawr Edit this on Wikidata

Ceir y cyfeiriad cyntaf ato fel un o'r tystion i'r siarter a roddodd Gruffudd ap Cynan ab Owain Gwynedd (m. 1200) i Abaty Aberconwy. Yn 1199 mae Gwyn ymhlith y tystion i'r siarter gan Llywelyn Fawr i'r un abaty, ar 6 Ionawr, 1199. Gellir casglu felly ei fod yng ngwasanaeth Llywelyn y pryd hynny ar adeg pan geisiai gadarnhau ei awdurdod yng Ngwynedd. Mae'n debyg iddo barhau yng ngwasanaeth y tywysog a dod yn ddistain iddo yn gynnar yn y 13g. Cofnodir ei bresenoldeb fel tyst i siarteri eraill yn ?1205, ?1208 a 1209. Yn 1209 roedd yn derbyn arian i Lywelyn gan y brenin John o Loegr ar ran y tywysog, gyda'r clerigwr Meistr Ystrwyth.

Ar ei farwolaeth yn 1215 fe olynwyd fel distain gan Ednyfed Fychan.

Cyfeiriadau golygu

  • David Stephenson, The Governance of Gwynedd (Caerdydd, 1984). Atodiad II.
O'i flaen :
 ?
Disteiniaid Gwynedd
Gwyn ab Ednywain
Olynydd :
Ednyfed Fychan