Ednyfed Fychan

Distain

Ednyfed Fychan (m. 1246; enw llawn Ednyfed Fychan ap Cynwrig) oedd distain (seneschal) llys Teyrnas Gwynedd, a wasanaethai Llywelyn Fawr fel ei ganghellor ynghyd â'i fab y Tywysog Dafydd. Ymhlith ei ddisgynyddion oedd Owain Tudur a'i feibion Siasbar a Meredydd, tad Harri Tudur.

Ednyfed Fychan
Ganwyd1170s Edit this on Wikidata
Teyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
Bu farw1246 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
GalwedigaethDistain Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadCynwrig ab Iorwerth ap Gwgon ab Idnerth Edit this on Wikidata
MamAngharad ferch Hwfa Edit this on Wikidata
PriodTangwystl ferch Llywarch, Gwenllian ferch Rhys Edit this on Wikidata
PlantGoronwy ab Ednyfed, Tudur ab Ednyfed, Gruffudd ab Ednyfed, Rhys Fychan, Angharad Verch Ednyfed, Llywelyn Cynfrig, Cynfrig Cynfrig, Hywel ab Ednyfed, Iorwerth Cynfrig, Madog Cynfrig, Angharad Verch Ednyfed, Gwenllian Cynfrig, Gruffudd ab Ednyfed Fychan o Henglawdd, Gwenllian ferch Ednyfed Fychan ap Cynwrig, Rhys ab Ednyfed Fychan ap Cynwrig ab Iorwerth, Llywelyn ab Ednyfed Fychan ap Cynwrig ab Iorwererth o Greunyn Edit this on Wikidata
Arfau Owain Tudur o Fôn, sy'n seiliedig ar arfau Ednyfed Fychan

Hanes golygu

Dywedir i Ednyfed ennill ei fri trwy dorri pennau tri Sais mewn brwydr rhwng lluoedd Gwynedd a byddin Ranulf, Iarll Caer. Mewn canlyniad dangosai dri phen ar ei arfau a ddaeth yn arfau etifeddol Tuduriaid Môn.

Yn 1215 cymerodd drosodd yn lle Gwyn ab Ednywain fel distain Gwynedd. Roedd hyn yn un o swyddi pwysicaf y llys a gwasanethai Ednyfed fel prif gynghorydd a chennad Llywelyn gartref ac oddi cartref. Cymerodd ran yn y trafodaethau a arweiniodd at arwyddu Cytundeb Heddwch Caerwrangon yn 1218 a bu'n gynrychiolydd i Lywelyn Fawr mewn cyfarfod â Harri III o Loegr yn 1232.

Roedd gan Ednyfed ystadau yn Rhos Fyneich (ger Bae Colwyn heddiw) a phlasdy gerllaw yn Llys Euryn yn Llandrillo-yn-Rhos. Roedd ganddo dir yn Ne Cymru yn ogystal. Mae hi bron yn sicr fod ganddo dir ar Ynys Môn hefyd gan fod Penmynydd ar yr ynys honno yn bencadlys i'r teulu am ganrifoedd. Priododd ddwywaith, yn gyntaf â Tangwystl Goch ferch Llywarch ap Brân, ac yna â Gwenllian ferch Rhys ap Gruffudd o Ddeheubarth.

Yn ôl traddodiad aeth Ednyfed ar bererindod i'r Tir Sanctaidd yn 1235; bu farw ei ail wraig Gwenllian y flwyddyn ganlynol. Ar ôl marwolaeth Llywelyn Fawr yn 1240 parheai fel distain yng ngwasanaeth Dafydd ap Llywelyn, hyd ei farwolaeth yn 1246.

Disgynyddion golygu

Bu farw un o'i feibion mewn brwydr yn erbyn y Saeson yn rhyfel 1245. Bu dau arall o'i feibion, Goronwy a Tudur, yn ddisteiniaid Gwynedd dan Lywelyn ap Gruffudd. Trwy ei fab Goronwy y codwyd cangen Penmynydd y teulu, a fyddai'n chwarae rhan mor bwysig yng ngwrthryfel Owain Glyndŵr a Rhyfeloedd y Rhosynnau.

Noddwr beirdd golygu

Ar farwolaeth Ednyfed canodd Elidir Sais, bardd a hanai o Fôn, farwnad iddo ac uchelwr arall o Fôn, Tegwared ab Iarddur. Mae hynny'n awgrymu fod Ednyfed wedi bod yn noddwr i Elidir Sais ac efallai i feirdd eraill: yn sicr buasai hynny'n gydnaws â'i statws uchel a'i safle yn llys Gwynedd. Er fod y gerdd yn gonfensiynol, dyma'r unig bortread sydd gennym o Ednyfed.

Llyfryddiaeth golygu

  • John Edward Lloyd, A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co., Llundain, 1911)
  • J.E. Caerwyn Williams (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i ddisgynyddion (Caerdydd, 1994). Cyfres Beirdd y Tywysogion. Cerdd marwnad Elidir Sais i Ednyfed, tt. 357-66.
O'i flaen :
Gwyn ab Ednywain
Disteiniaid Gwynedd
Ednyfed Fychan
Olynydd :
Goronwy ab Ednyfed