Gwyrth
Digwyddiad rhyfeddol a briodolir i ymyriad dwyfol neu oruwchnaturiol yw gwyrth.[1]

Crefyddau'r India golygu
Yn Hindŵaeth, Jainiaeth, a Bwdhaeth, credir bod y gallu i wneud gwyrthiau gan ddynion nad ydynt yn dduwiau neu'n ffigurau arwrol, megis yr iogi a'r asgetig.[2]
Cristnogaeth golygu
Yn y Testament Newydd priodolir sawl gwyrth i Iesu Grist, gan gynnwys troi'r dŵr yn win a cherdded ar y môr.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ gwyrth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Ebrill 2018.
- ↑ (Saesneg) Miracle. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Ebrill 2018.