Mae Gylfi Þór Sigurðsson (ganwyd 8 Medi 1989) yn bêl-droedwyr sy'n dod o Wlad yr Iâ. Cafodd o ei eni ar yr 8fed o Fedi 1989 yn Reykjavík. Mae'n chwaraewr canol-cae sy'n tueddu ymosod. Mae'n chwarae i Everton ac i'r tîm cenedlaethol Gwlad yr Iâ

Gylfi Sigurdsson
GanwydGylfi Þór Sigurðsson Edit this on Wikidata
8 Medi 1989 Edit this on Wikidata
Reykjavík Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Taldra186 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau79 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auC.P.D. Dinas Abertawe, Shrewsbury Town F.C., Reading F.C., Crewe Alexandra F.C., TSG 1899 Hoffenheim, Tottenham Hotspur F.C., C.P.D. Dinas Abertawe, Iceland national under-17 football team, Iceland national under-19 football team, Iceland national under-21 football team, Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad yr Iâ, Everton F.C., Lyngby Boldklub Edit this on Wikidata
Saflecanolwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonGwlad yr Iâ Edit this on Wikidata

Dechreuodd Gylfi ei yrfa gyda Reading yn 2008, ond wedyn cafodd ei werthu i Hoffenheim yn 2010[1] - a oedd y gwerthiant mwyaf gan Reading ar y pryd. Cafodd ei ethol yn Chwaraewr y Tymor am ddau dymor yn olynol - ar gyfer Reading yn 2009–10 ac ar gyfer Hoffenheim yn 2010–11[2]. Ar ôl tymor yn ôl mewn pêl-droed yn Lloegr gyda Dinas Abertawe, ymunodd â Tottenham Hotspur am ffi o £8 miliwn. Yn 2014, symudodd yn ôl i Abertawe fel rhan o gyfnewidfa i Ben Davies[3].

Gwnaeth Gylfi ei uwch ymddangosiad rhyngwladol cyntaf yng Ngwlad yr Iâ yn 2010 ac ers hynny mae wedi ennill dros 60 o gapiau. Cynrychiolodd ei wlad yn eu twrnament mawr cyntaf, Pencampwriaeth UEFA Ewro 2016, lle cyrhaeddodd ei wlad y rowndiau terfynol. Chwaraeodd hefyd yng Nghwpan y Byd FIFA 2018.

Ar 16eg Awst 2017, llofnododd Gylfi dros Everton, am ffi o £40 miliwn (gyda £5 miliwn mewn ad-daliadau posibl). Oedd yr cytundeb yma yn record i'r clwb. Maent yn ennill cyflog o £5.2 miliwn y flwyddyn (£100,000 yr wythnos), a oedd yn gwneud Gylfi yr enillydd uchaf yn Everton.

Bywyd personol

golygu

Ym Mehefin 2019, priododd Gylfi efo'i cariad hir dymor Alexandra Ívarsdóttir.

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) The Guardian (2010). The Guardian. The Guardian.
  2. (Saesneg) BBC. Gwefan BBC. BBC.
  3. (Saesneg) Bleacher Report (2012). Bleacher Report. Bleacher Report.