Tref yng nghanolbarth Tiwnisia yw Haffouz (Arabeg: حفوز). Fe'i lleolir yn nhalaith Kairouan 40 km i'r dwyrain o ddinas Kairouan ar gyffordd ar y briffordd GP12.

Haffouz
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirKairouan Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau35.6361°N 9.675°E Edit this on Wikidata
Cod post3130 Edit this on Wikidata
Map

Bu gan y dref ei hun boblogaeth o 8,225 yn 2004.[1] Yn ogystal mae'n ganolfan weinyddol dosbarth (délégation) gyda phoblogaeth o 43,792. Yn ogystal â'r dref, mae'r dosbarth yn cynnwys pentrefi Khit El Oued, Oued El Jebbès, El Aïn El Beïdha, El Houfia, Cherichira — lle ceir gwarchodfa natur — Traza, Ouled Khalfallah ac Etthamed.

Yn gorwedd 300 metr i fyny ym mynyddoedd Dorsal Tiwnisia, amgylchynir Haffouz gan fryniau Djebel Ousselat (i'r gogledd) a Djebel Trozza (i'r de).

Mae'n ganolfan i ardal amaethyddol sy'n cael cyflenwad dŵr o argae El Haouareb. Tyfir coed olewydd ac almon. Gorwedd yr ardal honno ar lan ogleddol afon Oued Merguellil.

Cafwyd protestiadau gan fyfyrwyr Haffouz yn Ionawr 2011, fel rhan o'r intifada yn erbyn llywodraeth Zine Ben Ali.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cyfrifiad 2004". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-19. Cyrchwyd 2011-01-07.
  2. "Fideo: Coleg Haffouz 07.01.2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-07. Cyrchwyd 2012-07-07.

Dolenni allanol golygu