Dinas yng nghanolbarth Tiwnisia yw Kairouan (Arabeg: القيروان al-Qayrawān). Mae'n brifddinas talaith Kairouan ac yn un o'r dinasoedd hynaf yn y Maghreb. Roedd y boblogaeth yn 2003 tua 150,000.

Kairouan
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth186,653 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 670 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirKairouan Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Arwynebedd68.02 ha, 154.36 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr68 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.68°N 10.1°E Edit this on Wikidata
Cod post3100 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganUqba ibn Nafi Edit this on Wikidata
Manylion
Mosg Mawr Kairouan a'i finaret

Mae Kairouan yn enwog am ei mosg mawr, a adwaenir hefyd fel Mosg Sidi Oqba, er anrhydedd Uqba bin Nafi a sefydlodd Kairouan ac a gododd y mosg gyntaf ar y safle yn y flwyddyn 670. Ystyrir y ddinas yn ddinas sanctaidd gan ddilynwyr Islam; mae'r Sunni yn ei gosod yn bedwaredd ar ôl Mecca, Medina a Jeriwsalem.

Dynodwyd Kairouan yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1988.