Canolfan ymwelwyr a thŷ bwyta ar ben yr Wyddfa ydy Hafod Eryri, a agorwyd yn 2009.

Hafod Eryri
Mathadeilad Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.068497°N 4.076231°W Edit this on Wikidata
Map
Tŷ bwyta uchaf Cymru - ar ben yr Wyddfa.

Datblygu

golygu

Cytunodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i ddatblygu canolfan ymwelwyr a chaffi newydd ym mis Ebrill 2006.[1] Erbyn canol mis Hydref 2006, roedd yr hen adeilad wedi cael ei ddymchwel mwy neu lai.

Yr agoriad swyddogol

golygu

Agorwyd yr adeilad yn swyddogol ar 12 Mehefin 2009 gan y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AC, Prif Weinidog Cymru.[2]

 
Tu fewn Hafod Eryri

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ydy perchennog yr adeilad, sydd hefyd yn ganolfan ymwelwyr ac a adeiladwyd gan Carillion ar gost o £8.35m.[3] Adeiladwyd y ganolfan, a gynlluniwyd gan Ray Hole Architects, i wrthsefyll tywydd eithafol iawn ar y copa; gall wrthsefyll gwyntoedd hyd at 150 mya, dros 5m o law bob blwyddyn a thymheredd o -20 °C. Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009, dyfarnwyd y Fedal Aur am Bensaernïaeth i benseiri'r ganolfan.

Cyfansoddwyd cerdd ar gyfer yr adeilad newydd, gan y Bardd Cenedlaethol Gwyn Thomas, sy'n cael ei harddangos ar yr adeilad a'i ffenestri:

"Copa'r Wyddfa: yr ydych chwi yma, yn nes at y nefoedd."[4]

Cafwyd beirniadaeth hallt o safon y bwyd yn y Telegraph yn Awst 2009 pan ddatgelwyd nad oedd y caffi ddim yn haeddu yr un seren a dywedwyd ei fod yn rhy brysur, gyda chiwiau "gwaeth na sêl; Harrods".

Yn ôl Jasper Gerard, The view is amazing apparently, if the cloud, mist and sleet clears in Wales during high summer. Dywedodd am y bwyd, Let me tell you it includes Knorr Cup-a-Soup. This must be the world's only £8 million restaurant to forget the food. [5]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu